Llywio newid - beth mae 'canlyniadau gweddol debyg' yn ei olygu ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd
Mae Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, yn egluro beth mae 'canlyniadau gweddol debyg' yn ei olygu ar gyfer y TGAU newydd.
Mae cymwysterau TGAU newydd mewn 15 pwnc wedi cael eu cyflwyno y tymor hwn i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Wrth i ysgolion gyflwyno'r cymwysterau hyn am y tro cyntaf, mae'n bwysig i athrawon a dysgwyr gael dealltwriaeth glir o'r disgwyliadau ynghylch safonau yn y cymwysterau newydd hyn.
Canlyniadau gweddol debyg
Ein safbwynt ni yw y dylai canlyniadau yn y cymwysterau TGAU newydd fod yn weddol debyg i'r canlyniadau yn yr hen rai (a fydd yn gorffen). Mae hyn yn golygu, ar gyfer pynciau lle mae cymhwyster TGAU yn rhan o’r hen gyfres a'r gyfres newydd, gyda charfan debyg yn astudio’r ddau gymhwyster, yna bydden ni’n disgwyl i gyfran y dysgwyr sy'n cyflawni graddau allweddol, fel gradd A ac C, fod yn weddol debyg ar lefel cymhwyster cenedlaethol.
Ar lefel uned unigol o fewn cymhwyster, fydden ni ddim o reidrwydd yn disgwyl i ganlyniadau fod yn weddol debyg rhwng cyfresi arholiadau. Mae hyn oherwydd y gall patrymau cofrestru amrywio rhwng cyfresi, a gall canlyniadau gael eu heffeithio gan ffactorau megis faint o ailsefyll sy'n digwydd. Yn ogystal, fydden ni ddim yn disgwyl canlyniadau gweddol debyg ar lefel ysgol unigol. Mae'r niferoedd sy’n cael eu cofrestru ar lefel canolfan yn gymharol fach, ac felly’n fwy ansefydlog na chanlyniadau cenedlaethol.
Pam yn weddol debyg?
Rydyn ni’n credu ei bod yn fwy realistig i anelu at ganlyniadau sy'n weddol debyg ar lefel genedlaethol yn hytrach na rhai sydd yn union yr un fath. Mae hyn oherwydd bod carfan wahanol o ddysgwyr yn astudio’r cymwysterau bob blwyddyn ac felly byddech chi'n disgwyl rhywfaint o amrywiad yn y canlyniadau. Ar ben hynny, bydd profiadau'r garfan hon o ddysgwyr Blwyddyn 10 yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, maen nhw wedi cael profiad gwahanol o’r cwricwlwm o’i gymharu â rhai mewn carfanau blaenorol a gafodd eu haddysgu o dan yr hen gwricwlwm. Yn ogystal, mae'r ystod gyflawn o bynciau TGAU sydd ar gael yn wahanol i flynyddoedd blaenorol.
Bydd defnyddio dull 'canlyniadau gweddol debyg' rhwng yr hen gymwysterau a'r cymwysterau newydd yn helpu i sicrhau tegwch i ddysgwyr. Er enghraifft, mae'n golygu nad yw dysgwyr yn ystod blynyddoedd cyntaf y cymwysterau newydd dan anfantais o'u cymharu â dysgwyr sydd wedi astudio’r hen gymwysterau. Gallai hyn ddigwydd am nifer o resymau. Efallai y bydd athrawon yn llai cyfarwydd â'r cymwysterau newydd yn ystod y blynyddoedd cyntaf, ac mae yna lai o hen bapurau arholiad a deunyddiau asesu ar gael i athrawon a dysgwyr eu defnyddio wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau. O ganlyniad i hyn, efallai bydd ffiniau graddau yn newid ar ôl y gyfres gychwynnol ac yn ystod rhai o’r cyfresi dilynol ar gyfer unedau a arholwyd ac unedau asesu di-arholiad.
Cyflawni canlyniadau gweddol debyg
Dylai cyflawni canlyniadau gweddol debyg fod yn eithaf syml mewn rhai pynciau, megis TGAU Celf a Dylunio oherwydd:
- nid yw cynnwys y cymwysterau wedi newid yn sylweddol
- mae strwythur y cymwysterau wedi aros yr un fath
- nid yw'r dulliau asesu wedi newid
- mae’r garfan o ddysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster yn debygol o fod yn sefydlog
Fodd bynnag, ar gyfer pynciau lle mae cymwysterau wedi newid yn fwy sylweddol, bydd cyflawni canlyniadau gweddol debyg yn fwy cymhleth. Er enghraifft, y cymwysterau TGAU newydd mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg, lle mae'r ffactorau canlynol yn ychwanegu cymhlethdod.
Integreiddio cynnwys y pwnc a charfanau o wahanol feintiau
Mae'r cymhwyster newydd yn cyfuno cynnwys o’r ddau gymhwyster presennol (TGAU Saesneg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Saesneg) sydd â chyfrannau gwahanol o ddysgwyr yn cyflawni graddau A ac C. Yn ogystal â hyn mae mwy o gofrestriadau ar gyfer TGAU Saesneg Iaith na TGAU Llenyddiaeth Saesneg ac mae proffil cyffredinol y dysgwyr sy'n astudio’r ddau gymhwyster yn wahanol.
Felly, mae angen meddwl yn ofalus am ba ganlyniadau sy'n weddol debyg yn yr hen gymwysterau a'r canlyniadau yn y cymwysterau TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg.
Cymwysterau gradd unigol a dwyradd
Bydd TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg ar gael fel gradd unigol a dwyradd. Ar hyn o bryd, allwn ni ddim bod yn gwbl sicr pa gyfran o ddysgwyr fydd yn dilyn y radd unigol a pha gyfran fydd yn dilyn y dwyradd.
Newid i strwythur unedol
Mae gan y cymhwyster newydd strwythur unedol, tra bod gan yr hen gymhwyster iaith TGAU strwythur llinol. Bydd y cymhwyster unedol yn galluogi dysgwyr i ailsefyll unedau, sy'n golygu y gallan nhw wella eu sgoriau mewn asesiadau.
Newidiadau i'r asesiad
Mae gan y cymhwyster newydd hefyd gyfran uwch o asesiadau di-arholiad, a bydd hyn yn effeithio ar ganlyniadau.
O ystyried y newidiadau i'r cymwysterau, mae bod 'yn weddol debyg' ar gyfer y cymwysterau TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg integredig newydd yn debygol o arwain at ganlyniadau sydd rhywle rhwng canlyniadau nodweddiadol yn y cymwysterau TGAU Saesneg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Saesneg cyfredol.
Mae ystyriaethau tebyg hefyd yn berthnasol i TGAU Iaith a llenyddiaeth Gymraeg ac i ryw raddau ar gyfer y cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (dwyradd) newydd.
Sut byddwn ni’n cyflawni canlyniadau gweddol debyg?
Wrth ddyfarnu'r cymwysterau am y tro cyntaf, bydd pwyllgorau dyfarnu CBAC yn defnyddio eu barn broffesiynol wrth edrych ar sut mae dysgwyr wedi perfformio yn yr asesiadau. Ochr yn ochr â hyn, byddan nhw hefyd yn edrych ar ystod o wybodaeth ystadegol i’w cefnogi nhw i adnabod y ffiniau graddau a fydd yn cyflawni'r canlyniadau gweddol debyg. Bydd y dystiolaeth ystadegol sydd ar gael yn helpu llywio'r dyfarniad. Bydd hefyd yn amddiffyn dysgwyr rhag bod dan anfantais lle gallai fod gostyngiad mewn perfformiad, sydd ddim yn anghyffredin pan fydd cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno.
Y camau nesaf
Rydyn ni’n gwybod bydd rhai dysgwyr Blwyddyn 10 yn astudio’r asesiadau uned cyntaf mewn nifer o'r cymwysterau TGAU newydd yn haf 2026. Rydyn ni hefyd yn gwybod bydd ysgolion eisiau mwy o eglurder ymlaen llaw ar y dull o ddyfarnu. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda CBAC ar y manylion technegol o ran cyflawni canlyniadau gweddol debyg. Byddwn ni’n rhannu rhagor o wybodaeth am hyn yn nhymor y gwanwyn cyn i’r unedau cyntaf gael eu dyfarnu.