Edrych ymlaen at ganlyniadau haf 2025 a thu hwnt
Wrth i wyliau'r haf ddechrau ac i ddysgwyr ac addysgwyr ledled y wlad gymryd seibiant haeddiannol, mae David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yn myfyrio ar gyflawniadau dysgwyr ac yn amlinellu'r opsiynau sydd ar gael wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.

Ar ôl blwyddyn academaidd brysur arall, gall dysgwyr, athrawon a darlithwyr i gyd gael seibiant haeddiannol yn ystod yr wythnosau nesaf. Gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau ychydig o amser rhydd i ymlacio ac i wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau.
Hoffwn ddechrau trwy longyfarch dysgwyr am eich holl waith caled yn cwblhau eich cymwysterau eleni, a diolch am holl gefnogaeth rhieni, gofalwyr ac eraill hefyd. Yn ogystal, diolch yn fawr i'r holl athrawon a darlithwyr am eich holl ymdrechion yn paratoi ein dysgwyr a'u cefnogi trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Wrth i ddiwrnodau canlyniadau'r haf hwn agosáu, bydd disgwyliadau’n cynyddu ymhlith y miloedd o ddysgwyr ar draws y wlad sy’n aros i dderbyn canlyniadau eu cymwysterau ymhen ychydig wythnosau. Ar draws pythefnos ym mis Awst, bydd mwy na 400,000 o ganlyniadau TGAU, UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cael eu cyhoeddi i ddysgwyr yng Nghymru, yn ogystal â llawer o ganlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.
Mae marcio a graddio yn digwydd trwy gydol yr haf ac yn cael eu cwblhau gan arholwyr sydd wedi'u hyfforddi yn y cynlluniau marcio. Trwy gydol y cyfnod marcio, mae arholwyr yn cael eu monitro i wneud yn siŵr eu bod yn marcio'n gywir ac yn gyson. Mae graddau’n cael eu pennu gan berfformiad dysgwyr yn eu hasesiadau, ac yn adlewyrchu'r hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Dilyniant
Wrth i'r disgwyl gynyddu yn ystod y cyfnod cyn derbyn canlyniadau, gall hefyd fod yn gyfnod nerfus wrth i ddysgwyr ystyried eu camau nesaf ar ôl iddyn nhw dderbyn eu cymwysterau. Rwy'n awyddus i roi sicrwydd i bob dysgwr bod cymorth ar gael wrth i chi benderfynu ar eich cam nesaf, ac mae yna lawer o opsiynau a llwybrau i chi eu hystyried.
I lawer o'r rhai sy'n cwblhau cymwysterau UG, Safon Uwch a chymwysterau lefel 3 eraill, efallai mai symud ymlaen i brifysgol neu ffurfiau eraill o addysg uwch yw'r nod. Efallai y bydd eraill yn awyddus i gael swydd i ddechrau ar eu gyrfaoedd, yn aml trwy ddechrau prentisiaeth, gan gydnabod gwerth ennill cyflog wrth iddyn nhw ddysgu gyda hyfforddiant yn y gwaith.
Ar gyfer dysgwyr iau sy'n cwblhau eu TGAU a chymwysterau eraill, mae amrywiaeth eang o opsiynau ar gael hefyd, naill ai mewn chweched dosbarth mewn ysgol, coleg addysg bellach lleol, neu mewn dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau. Mae'n foment allweddol ym mywydau'r unigolion hyn, gyda'r dewisiadau maen nhw’n eu gwneud nawr yn llywio eu dyfodol.
Pob lwc
Beth bynnag yw eich canlyniadau, llongyfarchiadau i chi ac i bob dysgwr arall am yr hyn rydych chi i gyd wedi llwyddo i'w gyflawni eleni. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwch chi symud ymlaen i’r cyfeiriad o’ch dewis neu ddod o hyd i ddewisiadau eraill addas a fydd yn mynd â chi ar daith i ddyfodol cyffrous a llwyddiannus.
I gael rhagor o gymorth ac arweiniad, ewch i wefan Cymwysterau Cymru, neu edrychwch ar y gwefannau partner hyn: