NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

04.11.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Mae arholiadau ar y gweill ar gyfer dysgwyr TGAU

Mae arholiadau'n dechrau heddiw i rai dysgwyr sy'n astudio TGAU Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg – Rhifedd, TGAU Mathemateg a TGAU Cymraeg Iaith.

Bydd Cymwysterau Cymru yn goruchwylio’r gyfres arholiadau ac yn monitro sut mae ffiniau graddau yn cael eu gosod a safonau'n cael eu cynnal. 

Fel gydag unrhyw gyfres asesu, gall ffiniau graddau newid er mwyn adlewyrchu gwahaniaethau o ran anhawster yr asesiadau. Mae hyn yn golygu nifer y marciau sydd eu hangen ar gyfer gradd benodol yn debygol o amrywio rhwng cyfresi arholiadau, yn darparu tegwch i ddysgwyr dros amser.  

Bydd gwybodaeth am gofrestriadau ar gyfer cyfres arholiadau mis Tachwedd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cymwysterau Cymru ar 5 Rhagfyr, a chyhoeddir y canlyniadau ar 9 Ionawr 2025. 

Mae Cymwysterau Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i greu'r Hwb Cynnwys Lefel Nesa sy'n darparu adnoddau adolygu a gwybodaeth i helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau. 

Mae rhagor o wybodaeth am raddio ar wefan Cymwysterau Cymru ac mae Prifysgol Rhydychen wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr yn manylu ar y dull o raddio cymwysterau TGAU yng Nghymru.