NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

18.08.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Mae dysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu graddau Safon Uwch ac UG

Mae dysgwyr UG a Safon Uwch yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau heddiw, ar ôl dychwelyd i arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers 2019. Bydd llawer o ddysgwyr galwedigaethol hefyd yn derbyn eu canlyniadau Lefel 3.

"Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddysgwyr ledled Cymru, a hoffwn i eu llongyfarch nhw heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Mae dysgwyr yng Nghymru wedi dangos beth maen nhw’n ei wybod, beth maen nhw’n ei ddeall a beth maen nhw’n gallu ei wneud – a dylen nhw fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Ar ôl dwy flynedd heriol i'r system addysg, mae ymdrech pawb a’u cefnogaeth i ddysgwyr yn golygu ein bod yn symud yn ôl tuag at ddulliau gweithredu cyn y pandemig," meddai Prif Weithredwr Philip Blaker.

Bu Cymwysterau Cymru yn gweithio gydag eraill yn y system addysg i ddod o hyd i’r ffordd decaf o asesu dysgwyr eleni. Cafodd pecyn cymorth ei roi ar waith i ddysgwyr eleni er mwyn ystyried y pandemig a'r tarfu ar addysg.

Cafodd cymwysterau eu haddasu i roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr ac i fynd i'r afael â’r amser addysgu a dysgu oedd wedi’i golli. Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru hefyd y byddai arholiadau'n cael eu graddio'n fwy hael eleni i gydnabod bod dysgwyr wedi cael y ddwy flynedd fwyaf anghyffredin wrth arwain at eu harholiadau.  

Yn ôl y bwriad, mae'r canlyniadau eleni tua hanner ffordd rhwng y canlyniadau yn 2019 pan gafodd arholiadau eu cynnal ddiwethaf, a'r canlyniadau yn 2021, pan benderfynodd athrawon ar raddau dysgwyr. Cafodd y dull hwn o raddio ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon ac mae'r un fath â'r dull gweithredu a gafodd ei ddefnyddio yn Lloegr. Mae'n nodi dechrau dychwelyd i safonau perfformiad cyn y pandemig. 

“Fel mewn unrhyw flwyddyn, mae cynnydd dysgwyr yn flaenoriaeth. Wrth i arholiadau ddychwelyd eleni, fe wnaethon ni weithio’n agos gyda CBAC i gytuno ar weithdrefnau ar gyfer dyfarnu graddau UG a Safon Uwch sy'n adeiladu ar y drefn arferol, tra hefyd yn darparu cynllun diogelwch i ddysgwyr. Rydyn ni hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod y broses raddio mor gyson â phosib gyda'r un cymwysterau mewn awdurdodaethau eraill i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau.”

"Roedd dychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig bob amser yn mynd i fod yn dasg fawr. Rydyn ni’n gwybod bod dysgwyr yn bryderus am ddychwelyd i arholiadau, ond ar y cyfan, mae'r gyfres arholiadau wedi mynd yn dda, sy'n gyflawniad anhygoel i bawb fu’n rhan ohoni. Hoffen ni ddiolch yn arbennig i'r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled a'u hymroddiad."

"Fel ym mhob blwyddyn, efallai na fydd rhai dysgwyr yn cael y graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw. Os na chest ti'r graddau rwyt ti eu hangen, paid â phoeni. Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol i ti eu dilyn.”

Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor diduedd, am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael. Cer i https://cymrungweithio.llyw.cymru/dechrau-dy-stori am ragor o wybodaeth a chefnogaeth.

Canlyniadau UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau 

  • Cafodd canlyniadau yn 2022 eu dyfarnu ar bwynt canol bras rhwng 2019 a 2021.
  • Cafodd 35,499 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf hwn.
  • Roedd 17.1% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 40.9% yn A*-A ac roedd 98.0% yn raddau A*-E.
  • Ar gyfer pobl ifanc 18 oed a wnaeth sefyll Safon Uwch CBAC, roedd 16.5% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 40.4% yn A*-A ac 98.1% yn raddau A*-E.
  • Cafodd 38,106 o raddau UG eu dyfarnu yr haf hwn.
  • Roedd 30.7% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A ac 92.7% yn A-E.
  • Ar gyfer pobl ifanc 17 oed a wnaeth sefyll cymwysterau UG CBAC, roedd 30.6% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A ac 92.8% yn raddau A*-E.
  • Cyfanswm cofrestriadau Tystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru) oedd 11,735 eleni.
  • Roedd 6.4% o raddau Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn A*, 29% yn A* - A a 96.7% yn A* - E.

Mae manylion llawn canlyniadau Safon Uwch, UG a'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth gefndirol ychwanegol am sut cafodd cymwysterau eu dyfarnu eleni a chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.