Mae Institute of British Sign Language (iBSL) yn ildio cydnabyddiaeth gyda Cymwysterau Cymru
Nid yw iBSL bellach yn gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru
Mae Institute of British Sign Language (‘iBSL’) wedi ildio ei statws fel corff dyfarnu a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru.
Hysbysodd iBSL Cymwysterau Cymru ym mis Ionawr 2023 o'i fwriad i ildio cydnabyddiaeth mewn perthynas â'i holl gymwysterau rheoleiddiedig. Mae hyn yng ngoleuni penderfyniad iBSL i roi’r gorau i fasnachu. Daw’r ildiad i rym o ddydd Gwener 3 Mawrth 2023.
Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag iBSL i ddiogelu buddiannau myfyrwyr. Mae Cymwysterau Cymru wedi rhoi trefniadau ar waith (a elwir yn ddarpariaethau arbed a throsiannol) sy’n caniatáu i iBSL barhau i gyhoeddi canlyniadau a thystysgrifau i fyfyrwyr ar ôl 3 Mawrth 2023, os oes ganddynt hawl ddilys, tra bydd yn parhau i fasnachu. Bydd cymwysterau a ddyfernir o dan y trefniadau hyn yn parhau i fod yn gymwysterau a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi gosod Amodau Arbennig ar iBSL er mwyn diogelu buddiannau ei fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Ni chaniateir i iBSL gofrestru unrhyw fyfyrwyr newydd i sefyll ei gymwysterau. Ni ddylai canolfannau gofrestru unrhyw fyfyrwyr newydd ar gyrsiau ar gyfer cymwysterau iBSL.
Hysbysodd iBSL i Gymwysterau Cymru y byddai'n rhoi'r gorau i weithredu ar 17 Ebrill 2023. Mae Cymwysterau Cymru felly wedi rhoi rhybudd i iBSL y byddai'r trefniadau yr oedd Cymwysterau Cymru wedi'u rhoi ar waith (a elwir yn darpariaethau arbed a throsiannol) i ganiatáu i iBSL barhau i gyhoeddi canlyniadau a thystysgrifau i fyfyrwyr yn dod i ben ar ôl y dyddiad hwnnw. O 18 Ebrill 2023, nid yw iBSL bellach yn ddarostyngedig i Amodau Safonol Cydnabyddiaeth nac unrhyw Amodau Arbennig ac ni all ddyfarnu cymwysterau rheoledig Cymwysterau Cymru. Dylai myfyrwyr gysylltu â'u darparwr hyfforddiant am ragor o wybodaeth.