NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

28.02.23

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Mae Institute of British Sign Language yn ildio cydnabyddiaeth gyda Cymwysterau Cymru

Nid yw iBSL bellach yn gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru

Mae Institute of British Sign Language (‘iBSL’) wedi ildio ei statws fel corff dyfarnu a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru.   

Hysbysodd iBSL Cymwysterau Cymru ym mis Ionawr 2023 o’i fwriad i ildio cydnabyddiaeth mewn perthynas â’i holl gymwysterau rheoleiddiedig. Mae hyn yng ngoleuni penderfyniad iBSL i roi’r gorau i fasnachu. Daw’r ildiad i rym o ddydd Gwener 3 Mawrth 2023. 

Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag iBSL i ddiogelu buddiannau myfyrwyr. Mae Cymwysterau Cymru wedi rhoi trefniadau ar waith (a elwir yn ddarpariaethau arbed a throsiannol) sy’n caniatáu i iBSL barhau i roi canlyniadau a thystysgrifau i fyfyrwyr ar ôl 3 Mawrth 2023, os oes ganddynt hawlogaeth ddilys, tra bydd yn parhau i fasnachu. Bydd cymwysterau a ddyfarnwyd o dan y trefniadau hyn yn parhau i fod yn gymwysterau a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru. 

Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi gosod Amodau Arbennig ar iBSL er mwyn diogelu buddiannau ei fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Ni chaniateir i iBSL gofrestru unrhyw fyfyrwyr newydd i gymryd ei gymwysterau. Ni ddylai canolfannau gofrestru unrhyw fyfyrwyr newydd ar gyrsiau ar gyfer cymwysterau iBSL. 

Rydym yn deall y gallai hyn achosi aflonyddwch ac ansicrwydd i fyfyrwyr. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod mewn cysylltiad â chanolfannau iBSL i roi manylion am gymwysterau rheoleiddiedig amgen y gall myfyrwyr drosglwyddo iddynt. Ceir rhestr lawn o'r cyrff dyfarnu a gydnabyddir ar hyn o bryd yn ein Cyfeiriadur o Gyrff Dyfarnu a gellir dod o hyd i gymwysterau rheoleiddiedig ar Gronfa Ddata QiW. Mae'n ofynnol i iBSL ddarparu cymorth i unrhyw fyfyrwyr sy'n dymuno trosglwyddo i gymhwyster rheoleiddiedig arall. Dylai myfyrwyr gysylltu â'u hysgol, coleg neu ddarparwr hyfforddiant am ragor o wybodaeth. 

Ar hyn o bryd mae gan iBSL y cymwysterau canlynol ar Gronfa Ddata QiW Cymwysterau Cymru: 

Rhif Cymhwyster 

Teitl 

Lefel 

C00/0733/1 

Dyfarniad mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain (Mynediad 3) 

Mynediad 

C00/2431/5 

Dyfarniad mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain (Mynediad 3) (QCF) 

Mynediad 

C00/2430/8  

Award in DeafBlind Awareness   

Lefel 1  

C00/2430/9 

Award in Deaf Awareness   

Lefel 1  

C00/0276/6  

Dyfarniad mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain 

Lefel 1  

C00/2431/4 

Award in Deafblind Communication 

Lefel 2 

C00/0276/8  

Tystysgrif mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain 

Lefel 2  

C00/2431/3 

Award in Deafblind Communication 

Lefel 3 

C00/0276/7 

Tystysgrif mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain 

Lefel 3  

C00/0407/6 

Tystysgrif mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain 

Lefel 4 

C00/1090/8 

Tystysgrif mewn Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Athrawon Iaith Arwyddion 

Lefel 4  

C00/2431/0 

Award In Bilingual Skills: British Sign Language/English 

Lefel 4 

C00/2431/1 

Certificate In British Sign Language Studies 

Lefel 6 

C00/2431/2 

Diploma in British Sign Language/English Interpreting Studies   

Lefel 6  

Mae iBSL hefyd yn cynnig cymwysterau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r rheolyddion yn Lloegr (Ofqual) a Gogledd Iwerddon (Council for the Curriculum, Examinations and Assessment Regulation 'CCEA') i sicrhau dull cyson ar gyfer myfyrwyr ar draws y tair gwlad. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut mae hyn yn effeithio ar gymwysterau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Pan fydd cyrff dyfarnu yn ystyried ildio eu cydnabyddiaeth, rydym yn barod i drafod yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen tra'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hamddiffyn.