BLOG

Cyhoeddwyd:

15.10.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Trafodaethau am asesu parhaus

Mae Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau, yn myfyrio ar drafodaethau am asesu parhaus.

Mae asesu parhaus yn derm sy’n codi o bryd i'w gilydd wrth drafod diwygio cymwysterau.

Mae'r ymadrodd yn dwyn i gof syniadau o hyblygrwydd, dylunio sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, a'r potensial ar gyfer profiadau asesu mwy dilys. Ac eto, er gwaethaf ei amlygrwydd mewn trafodaeth ryngwladol a'i apêl ddamcaniaethol, nid yw Cymwysterau Cymru yn defnyddio'r term "asesu parhaus" yn ei waith rheoleiddio neu ddiwygio.  

Cwmpas ymchwil 
Mae'r blog hwn yn defnyddio ymchwil ar asesu parhaus a gynhyrchwyd ar ein cyfer ni gan AlphaPlus i archwilio ac ystyried y dull hwn o asesu, yn enwedig mewn perthynas â chymwysterau lle mae llawer yn y fantol, megis TGAU a Safon Uwch. 

Mae'r ymchwil gan AlphaPlus, yn archwilio manteision a heriau posibl gweithredu asesu parhaus (digidol) mewn cymwysterau fel TGAU a chymwysterau galwedigaethol.   

Dryswch posibl
Byddai modd ystyried asesu parhaus yn debyg i agweddau ar ddyluniad TGAU cyfredol, gan gynnwys asesu di-arholiad ac unedeiddio, lle mae asesiadau'n digwydd cyn yr arholiadau ar ddiwedd Blwyddyn 11. Fodd bynnag, mae'r asesiadau hynny'n tueddu i ddigwydd ar adegau gwahanol neu o fewn cyfnodau byr. Byddai model asesu parhaus yn debygol o fod yn wahanol iawn i ddyluniad TGAU cyfredol, er enghraifft, trwy arwain at fwy o bwyntiau asesu trwy gydol y cwrs (fel y awgrymir gan y gair "parhaus"). Byddai dull asesu parhaus yn debycach i’r gwaith cwrs a gafodd ei weithredu ar gyfer yr arholiadau TGAU gwreiddiol yn ystod yr 1980au a'r 1990au, yn hytrach na’r asesiadau di-arholiad cyfredol. 

Senarios modelu
Roedd canfyddiadau'r ymchwil yn gymhleth. Er bod asesu parhaus yn gallu cynnig hyblygrwydd a chefnogi dysgu ar eich cyflymder eich hun, mae hefyd yn codi cwestiynau sylweddol ynghylch pa mor ddibynadwy, hydrin (yn enwedig o ran llwyth gwaith dysgwyr ac athrawon) a theg ydyw. 

Datblygwyd tri senario yn yr ymchwil i ddangos modelau posibl o weithredu asesu parhaus. Roedd pob senario’n gofyn am gyfaddawdu  rhwng ymreolaeth y dysgwyr a rheolaeth system, rhwng cyfoeth ffurfiannol a thryloywder crynodol. 

Mae'r syniadau yn y senarios hyn yn ddiddorol ac nid ar gyfer y system gymwysterau’n unig, er enghraifft sut y gallai dylunio asesiadau ffurfiannol gyd-fynd ag asesiadau cymwysterau yn yr un pwnc neu bynciau tebyg. 

Dull rheoleiddio
Nid yw ein fframwaith rheoleiddio presennol yn cynnwys asesu parhaus fel model diffiniedig neu weithredol ar gyfer cymwysterau, ac nid ydym yn bwriadu newid hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymchwil. Mae'r bwriad hwn yn adlewyrchiad rhannol o'r cymhlethdod a'r amwysedd sy'n ymwneud â'r term. 

Mewn cyd-destunau asesu lle mae llawer yn y fantol fel arholiadau TGAU a Safon Uwch  lle mae canlyniadau asesu’n dylanwadu ar gynnydd neu fynediad at gyfleoedd pellach  credwn y gallai ffocws rheoleiddiol ar asesu parhaus fod yn broblem. Byddem mewn perygl o gymysgu asesu â dysgu, a allai gynyddu'r baich asesu a thanseilio eglurder pwrpas. 

Yn ogystal, mae'r term ei hun yn cael ei ddefnyddio'n anghyson ar draws gwahanol gyd-destunau. Mewn rhai systemau asesu, mae'n cyfeirio at ddyfarniadau dan arweiniad athrawon yn yr ystafell ddosbarth; mewn eraill, mae'n cyfeirio at fodelau modiwlaidd neu fodelau sy'n seiliedig ar bortffolio. Heb ddealltwriaeth gyffredin o'r cysyniad, mae'n anodd rheoleiddio neu ddiwygio defnyddio'r term mewn ffordd glir.

Asesiadau lle mae llawer yn y fantol 
Mae asesu parhaus yn rhoi pwyslais ar amlder yr asesu, yn hytrach nag ar ansawdd, pwrpas neu gynllun yr asesiadau hynny. Mewn cyd-destunau lle mae llawer yn y fantol, gallai'r pwyslais hwn fod yn risg. Po fwyaf arwyddocaol yw canlyniadau asesu  i ddysgwyr, ysgolion, a'r system  y mwyaf yw'r potensial am ganlyniadau anfwriadol pan gaiff asesu ei ystyried yn rhywbeth cyson neu'n ddi-ildio. Nid yw'n glir a fyddai'r dull hwn yn lleihau neu'n cynyddu pryder dysgwyr am asesu. 

Yn hytrach na chanolbwyntio'n bennaf ar amlder asesu, credwn ei bod yn well meddwl yn ofalus am y ffordd orau o integreiddio gwahanol ddulliau asesu. Yr her yw dylunio systemau asesu sy'n ymatebol ac yn gadarn  yn ddigon hyblyg i gefnogi dysgwyr amrywiol, ond yn ddigon strwythuredig i gynnal tryloywder, cynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol i ddefnyddwyr a hybu hyder y cyhoedd. 

Edrych ymlaen
Er nad ydym ar hyn o bryd yn bwrw ymlaen ag asesu parhaus fel cysyniad rheoleiddiol neu ddiwygio, rydym yn parhau i fod yn agored i'w botensial ar gyfer ailystyried asesu. Mae'r ymchwil wedi ein helpu i egluro'r amodau lle gallai asesu parhaus fod yn fwy ymarferol a gwerthfawr. Mae hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd technoleg ddigidol wrth alluogi gwahanol fodelau asesu. 

Efallai y bydd gan asesu parhaus rôl i'w chwarae yn ein gwaith a'n syniadaeth  ond dim ond os gallwn ei ddiffinio'n glir, ei weithredu'n dda, a sicrhau ei fod yn cefnogi defnydd canlyniadau'r asesiadau.