Mathemateg ychwanegol, dewis ychwanegol
Andrew Shipway, Rheolwr Cymwysterau, sy’n trafod y cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol newydd a'r hyn mae angen i ddysgwyr ac athrawon wybod.
Mae mathemateg a rhifedd yn parhau i fod yn ddisgyblaeth bwysig sy'n sail i lawer o bethau rydyn ni'n eu gwneud yn ein bywydau bob dydd. O feddwl rhesymegol a galluoedd datrys problemau, i ddealltwriaeth dda o sut i ddehongli a dadansoddi gwybodaeth, mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau dysgwyr. Mae'r cymwyseddau hyn nid yn unig yn hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn dysgu a gyrfaoedd yn y dyfodol, ond hefyd ar gyfer rheoli cyllid personol, gwneud penderfyniadau gwybodus ac ymgysylltu’n hyderus â'r byd o'n cwmpas.
Yn ei flog Integreiddio mathemeateg a rhifedd: egluro’r cymhwyster dwyradd newydd, nododd fy nghydweithiwr Oliver Stacey sut mae'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd newydd yn diwallu anghenion dysgwyr.
Gan gydnabod pwysigrwydd mathemateg a rhifedd, cytunodd Cymwysterau Cymru i ddatblygu cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol newydd, gwneud-i-Gymru, a fyddai’n adeiladu ar lwyddiant y cymhwyster blaenorol i’w wneud yn fwy hyblyg, yn fwy hygyrch ac yn fwy apelgar.
Pam y newid?
Roedd cyfranogiad yn y cymhwyster blaenorol yn sylweddol, ond bu ei effaith yn gyfyngedig i'r rheiny sydd wedi gallu treulio cyfran sylweddol o'u hamser arno.
Roedd ein hymgynghoriad ar yr ystod o gymwysterau cenedlaethol sydd ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy hyblyg. Byddai hyn yn cynnig y cyfle i ddysgu am fathemateg a rhifedd y tu hwnt i'r cynnwys sydd yn y TGAU dwyradd newydd i gronfa ehangach o ddysgwyr.
Mae'r cymhwyster blaenorol yn gam gwych i fathemateg UG a Safon Uwch. Ac er bod y Cwricwlwm i Gymru yn cydnabod rôl bwysig disgyblaethau unigol fel mathemateg a rhifedd, mae hefyd yn anelu at annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar draws disgyblaethau.
Gwelsom gyfle i ehangu'r cynnwys ar gyfer Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol er mwyn galluogi gwneud mwy o gysylltiadau â meysydd pwnc eraill o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn wedyn yn gallu gwella, ysgogi a chefnogi dysgu a chynnig cyfle i symud ymlaen i fwy o gymwysterau UG a Safon Uwch, a chymwysterau Lefel 3 eraill, sy’n ehangach na mathemateg yn unig.
Sut bydd hyn yn newid?
Er bydd agweddau ar y cymhwyster yn edrych yn debyg i unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r cymhwyster blaenorol, rydyn ni wedi ymateb i adborth gan randdeiliaid.
Felly, bydd y cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol newydd bellach yn cynnig mwy o hyblygrwydd nag erioed o'r blaen.
Bydd ysgolion yn gallu teilwra faint o fathemateg a chyfuniad y mathemateg maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn gallu dewis gwneud ychydig mwy o fathemateg, neu swm mwy sylweddol o fathemateg a chael eu cydnabod am hynny.
Rydyn ni wedi ehangu'r ystod o unedau sydd ar gael i gynnwys mathemateg bur a chymhwysol. Mae'r cymhwyster newydd yn cynnwys chwe uned i ganolfannau a dysgwyr eu dewis:
- algebra
- calcwlws
- geometreg a thrigonometreg
- ystadegau
- mecaneg
- mathemateg arwahanol a mathemateg penderfyniadau
Llwybrau drwy'r cymhwyster
Mae'r hyblygrwydd hwn yn cael ei ddangos gan yr ystod o wahanol lwybrau.
Bydd angen i ddysgwyr sy'n dymuno cael y cymhwyster llawn ddewis algebra, calcwlws ac un uned arall. Mae algebra a chalcwlws wedi profi i fod yr unedau mwyaf poblogaidd o fewn y cymhwyster presennol a thrwy ddynodi unedau gorfodol gallwn ni gynnal cymhariaeth trwy wahanol lwybrau'r cymhwyster.
I'r rheiny nad ydyn nhw’n cymryd cyfuniad o unedau sy'n arwain at gymhwyster llawn, byddan nhw’n cael tystysgrif i ddangos eu cyflawniadau yn eu hunedau dewisol. Mae hyn yn rhoi'r opsiwn i ddysgwyr astudio cyfuniad o unedau o'u dewis eu hunain, er enghraifft:
- un neu ddwy uned o'u dewis
- tair uned nad ydyn nhw’n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster llawn
- mwy na thair uned
Bydd cyfle i sefyll yr arholiad algebra neu galcwlws yn sesiwn mis Ionawr, a fydd yn galluogi'r rhai sy'n dewis gwneud y cymhwyster llawn i rannu'r asesiadau dros sawl cyfres arholiadau.
Bydd unedau unigol a'r cymhwyster cyffredinol yn derbyn gradd llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth.
Beth fydd y newid hwn yn ei olygu i ddysgwyr ac ysgolion?
Bydd y cymhwyster newydd yn parhau i ymestyn dysgwyr sy'n ystyried symud ymlaen i gymwysterau UG a Safon Uwch Mathemateg. Fodd bynnag, fydd hyn ddim yn rhagofyniad i unrhyw un sy'n gobeithio symud ymlaen.
Gan gefnogi gallu mathemategol, dealltwriaeth gysyniadol a hyder dysgwyr, bydd y cymhwyster newydd hwn yn apelio at ystod ehangach o ddysgwyr ac yn cefnogi dilyniant i ddysgu ôl-16 mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol. Er enghraifft, mae'r uned mathemateg arwahanol a mathemateg penderfyniadau yn ymdrin ag algorithmau sy'n berthnasol i gyfrifiadureg, tra bod yr uned fecaneg yn cynnwys gwaith ar rymoedd sy'n berthnasol i ffiseg a pheirianneg.
Cefnogi athrawon drwy’r newid
Er mwyn helpu canolfannau i baratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster am y tro cyntaf, bydd CBAC yn darparu cyfres o adnoddau digidol dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster yn effeithiol gyda'r nod o helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth arwain dysgwyr drwy'r cymhwyster newydd cyffrous hwn.
Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan CBAC.