Meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster newydd TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl)
Cymwysterau Cymru yn ailgyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster newydd TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl).
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) bellach yn cael ei gyflwyno i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026, rydyn ni wedi parhau i gynnwys ein rhanddeiliaid gan gynnwys y cymdeithasau dysgedig perthnasol yn ein gwaith. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi cytuno ar feini prawf cymeradwyo diwygiedig (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei gymeradwyo) ar gyfer y cymhwyster hwn.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen gwybodaeth gefndir sy'n esbonio'r newidiadau yn fanylach. Gellir ei gweld yma.
Y newidiadau allweddol
I gyd-fynd ag uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r perthnasoedd a'r cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau o fewn bioleg, cemeg a ffiseg.
Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth am y cysylltiadau a'r perthnasoedd rhwng pynciau ar draws y tair disgyblaeth, gan gefnogi’r broses o integreiddio addysgu a dysgu am gysylltiadau ar draws pynciau a sicrhau hydrinedd y cymhwyster cyffredinol.
Mae'r gofynion cynnwys ar gyfer unedau ar fioleg, cemeg a ffiseg wedi cael eu hadolygu, gan roi mwy o hyblygrwydd i CBAC, y corff dyfarnu ar gyfer TGAU yng Nghymru, ddatblygu'r cymhwyster.
Adolygwyd trefniadau asesu'r cymhwyster hefyd fel bod yr asesu yn gallu cael ei rannu’n well ar draws y cwrs dysgu dwy flynedd, gan leihau'r amser a dreulir ar asesu ar gyfer dysgwyr ac athrawon ar ddiwedd y cymhwyster. Bydd dysgwyr bellach yn sefyll dau arholiad ar gyfer pob disgyblaeth, gan eu galluogi i sefyll un arholiad ar gyfer pob disgyblaeth ym mlwyddyn 10 os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. I gefnogi dilyniant i astudiaeth ôl-16 yn y gwyddorau, disgwylir y bydd dysgwyr yn sefyll yr ail arholiad ar gyfer pob disgyblaeth ym mlwyddyn 11. Mae hyn yn adlewyrchu'r trefniadau asesu ar gyfer y cymhwyster TGAU dwyradd presennol, y mae rhanddeiliaid wedi dweud ei fod yn gweithio'n dda.
Rydyn ni’n gweithio gyda CBAC i archwilio’r ffordd orau o adrodd ar raddau unedau ar gyfer pob asesiad, ac rydyn ni wedi gofyn i’r corff dyfarnu ddatblygu proses sy’n sicrhau y gellir cynnwys graddau dysgwyr ar gyfer pob uned ar un adysgrif. Rydyn ni’n hyderus y bydd hyn yn cefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw benderfynu ar y posibilrwydd o astudio’r gwyddorau yn y dyfodol ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ganolfannau i gefnogi penderfyniadau yn ymwneud â chofrestru.
Y camau nesaf
Bydd datblygu’r cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn rhan o amserlen cymwysterau TGAU Ton 2 eraill (y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2026), i gyd-fynd â’r amserlen ar gyfer datblygu’r cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol).
Mae disgwyl i CBAC, y corff dyfarnu ar gyfer TGAU yng Nghymru, gyhoeddi amlinelliad o’r cymhwyster cyn diwedd 2024. Yna bydd y fanyleb derfynol ar gael i ganolfannau a dysgwyr ym mis Medi 2025, flwyddyn cyn y disgwylir i'r cymhwyster gael ei addysgu am y tro cyntaf.
Bydd canolfannau’n parhau i allu cynnig yr ystod bresennol o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth i ddysgwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2025. Bydd y cymwysterau hyn wedyn yn cael eu disodli gan y TGAU newydd yn y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) a’r TGAU Gwyddoniaeth Integredig newydd (Dyfarniad Unigol) ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau eu cyrsiau TGAU ym mis Medi 2026.