Meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru newydd(Dyfarniad Unigol)
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru newydd.
Bydd y cymhwyster TGAU dyfarniad unigol hwn yn cyd-fynd â TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yn y Gwyddorau (Dyfarniad Dwyradd), sydd wedi’i ddylunio i fod y prif gymhwyster gwyddoniaeth a gaiff ei sefyll gan y rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Bydd y TGAU dyfarniad unigol yn cael ei addysgu o fis Medi 2026 ac nid yw wedi'i gynllunio i gefnogi dilyniant uniongyrchol i UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg na ffiseg.
Ers cyhoeddi’r penderfyniad i greu’r TGAU dyfarniad unigol newydd hwn, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio'n helaeth gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys ymarferwyr, ymgynghorwyr pwnc, CBAC, Llywodraeth Cymru a'r Cymdeithasau Dysgedig, i gyd-greu'r gofynion dylunio.
Bydd y TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol) yn cael ei strwythuro’n thematig fel bod dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o fewn ystod o themâu a chyd-destunau.
Mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd cynnwys y dyfarniad unigol newydd TGAU:
- yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y gwyddorau
- yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn fwy chwilfrydig am y gwyddorau a chwilio am atebion trwy ddatblygu eu sgiliau ymholi gwyddonol
- yn galluogi dysgwyr i ddeall sut mae'r gwyddorau yn rhyng-gysylltiedig
- yn adlewyrchu canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru
- yn afaelgar, yn berthnasol ac yn hydrin i ddysgwyr ac athrawon
- yn ymdrin yn briodol â lefel 1 a lefel 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
I gael gwybod mwy, darllenwch yr Adroddiad TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol) Gwneud-i-Gymru