NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

21.09.21

ADDYSGWYR
CYFLOGWYR

Rhagor o gymwysterau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus cyfrwng Cymraeg ar gael yn dilyn adolygiad

Mae pwysigrwydd cymwysterau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr angen i gymwysterau chwaraeon ychwanegol fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi'i amlygu mewn adroddiad gan Cymwysterau Cymru.

Mae adolygiadau sector Cam 2 yn canolbwyntio ar adolygu argaeledd cymwysterau ar gyfer addysg bellach ôl-16 amser llawn, ysgolion chweched dosbarth a phrentisiaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol; a nodi cyfleoedd i sicrhau bod cymaint o gymwysterau galwedigaethol â phosibl ar gael drwy gyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, "Mae sectorau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus yn cyflogi nifer sylweddol o bobl ledled Cymru, ac mae'n bwysig bod y cymwysterau'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr i ddysgwyr.  

“Drwy ein hadolygiad sector rydym wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid yn y sector i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennym ac i sicrhau bod mwy o gymwysterau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg."

"Mynegodd cyflogwyr a darparwyr dysgu hefyd awydd am gynnwys ymwybyddiaeth iechyd meddwl o ystyried pwysigrwydd ymwybyddiaeth a lles iechyd meddwl yn y diwydiant chwaraeon. 

"Rydym eisoes wedi rhannu a thrafod y canfyddiadau gyda'n rhanddeiliaid ac wedi tynnu sylw at ein Grant Cymorth i'r Gymraeg fel bod gan gyrff dyfarnu'r gefnogaeth i gynnig mwy o gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rydym nawr yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr dysgu am y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr.

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn  ar wefan Cymwysterau Cymru.