Meini prawf cymeradwyo newydd ar gyfer cymwysterau lletygarwch ac arlwyo
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau ôl-16 mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Daw hyn yn dilyn adolygiad helaeth o'r sector ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd dewis newydd, symlach o gymwysterau yn barod ar gyfer dysgwyr o fis Medi 2027.
Mae Cymru'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd gyda'i harddwch naturiol trawiadol, ei thirweddau amrywiol, a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn chwarae rhan allweddol wrth groesawu'r twristiaid hyn, gan gyflogi miloedd o bobl ledled y wlad a chyfrannu £4 biliwn i'r economi.
Gan nodi carreg filltir newydd ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru, lluniwyd y meini prawf cymeradwyo gyda mewnbwn gan randdeiliaid i gynnig dewis fwy cydlynol o gymwysterau sydd:
- Â chynnwys cyfredol yn ymwneud â’r diwydiant
- Yn cynnig y cyfle i archwilio'r cyd-destun Cymreig
Mae'r meini prawf cymeradwyo yn nodi rhai gofynion allweddol ar gyfer cynnwys ac asesiadau cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo gwneud-i-Gymru newydd. Bydd y gyfres hon o gymwysterau ôl-16 yn barod ar gyfer colegau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith ym mis Medi 2026 ac i'w haddysgu am y tro cyntaf i ddysgwyr o fis Medi 2027.
Dywedodd Lisa Mitchell, Rheolwr Cymwysterau Cymru:
"Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn sector sylweddol o ran gweithlu cyffredinol Cymru. Wrth sgwrsio gyda rhanddeiliaid, cawsom adborth ei bod yn bwysig i Addysg Bellach gael mynediad at amrywiaeth o gymwysterau sy'n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu digon o wybodaeth a sgiliau i ymuno â'r gweithlu, neu i gyrraedd cymhwysedd galwedigaethol.
Mae ein meini prawf cymeradwyo yn caniatáu i golegau ddewis cymhwyster sy'n addas ar gyfer anghenion eu dysgwyr, capasiti eu bwytai coleg a sgiliau’r staff sy’n eu haddysgu.
Yn ogystal â hyn, bydd yr ystod lawn o gymwysterau cymhwysedd galwedigaethol hefyd ar gael i'w defnyddio mewn Dysgu Seiliedig ar Waith a'u fframweithiau prentisiaethau cysylltiedig.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â ni ar y gwaith hwn, gan gynnig eu sylwadau a herio ein cynigion yn adeiladol o’r cychwyn cyntaf."
Mae manylion llawn yr adolygiad sector a'r meini prawf cymeradwyo sydd wedi'u cyhoeddi ar gael yma.