O'r pridd i'r plât: deall y TGAU Bwyd a Maeth newydd
Mae Tom Croke, Rheolwr Cymwysterau, yn sôn am y newidiadau allweddol i TGAU mewn bwyd a maeth, wrth i ysgolion a cholegau baratoi i addysgu’r cymhwyster newydd hwn ym mis Medi 2025.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r rhyngrwyd wedi ffrwydro gyda ffeithiau, ffigurau, chwiwiau a honiadau am yr hyn y gallai neu y dylai pobl ifanc fod yn ei wneud i wella eu hiechyd a'u maeth eu hunain ac eraill.
Nod y TGAU newydd hwn yw rhoi'r wybodaeth i bob dysgwr wneud penderfyniadau mwy gwybodus am fwyd a maeth, a rhoi'r sgiliau iddyn nhw baratoi a choginio prydau, diodydd a byrbrydau cytbwys a blasus.
Mae'r TGAU bwyd a maeth yn seiliedig ar y cysyniad o ddeall taith bwyd o'r pridd i'r plât. Bydd yn galluogi dysgwyr i:
- wneud dewisiadau bwyd gwybodus a diogel iddyn nhw eu hunain ac i eraill
- esbonio swyddogaeth, manteision maethol a rhinweddau synhwyraidd cynhwysion o fewn rysáit
- disgrifio'r cysylltiadau rhwng deiet, maeth, iechyd a lles
- paratoi, prosesu, storio, coginio a gweini bwyd yn effeithiol ac yn ddiogel
- archwilio amrywiaeth o gynhwysion, a dulliau coginio a thechnegau, o fwydydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Beth sy'n newid yn y TGAU bwyd a maeth newydd?
Bydd y cymhwyster TGAU Bwyd a Maeth newydd yn cael ei gyflwyno i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 ac mae'n adeiladu ar gryfderau'r TGAU presennol.
Fodd bynnag, mewn ymateb i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ac adborth gan randdeiliaid, mae rhai nodweddion newydd cyffrous.
Cyfraniadau a bwydydd cymunedau ac unigolion Asiaidd, du ac ethnig lleiafrifol
Mae gennym werthfawrogiad cynyddol o ddylanwadau economaidd, amgylcheddol, moesegol a chymdeithasol-ddiwylliannol ar y bwyd sydd ar gael, prosesau cynhyrchu, diet a dewisiadau iechyd.
Bydd y TGAU newydd hwn yn adlewyrchu cyfraniadau a bwydydd cymunedau ac unigolion Asiaidd, du ac ethnig lleiafrifol yn llawn. Bydd dysgwyr yn cael cyfle i wneud a pharatoi prydau o amrywiaeth o wahanol wledydd a diwylliannau, a chael gwerthfawrogiad o sut mae bwyd yn ein cysylltu â'r byd o'n cwmpas.
Symud i arholiad ar y sgrin
Bydd yr arholiad ar y sgrin yn hytrach nag yn ysgrifenedig, gan roi hyblygrwydd i CBAC gynnwys ystod ehangach o fathau o gwestiynau i wella dilysrwydd.
Er enghraifft, bydd dysgwyr yn gallu llusgo, gollwng a rhoi delweddau a thestun yn eu trefn i'w categoreiddio a chreu diagramau proses. Gallai cynnwys fideos o arddangosiadau ymarferol hefyd alluogi dysgwyr i werthuso'r ffordd y mae eraill yn defnyddio ac yn perfformio eu sgiliau.
Cefnogi canolfannau trwy'r newid hwn
Yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf, bydd CBAC yn cyhoeddi ystod o adnoddau digidol dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu llawer o'r pynciau o fewn y cymhwyster TGAU bwyd a maeth newydd. Gellir cael mynediad at yr adnoddau hyn trwy wefan adnoddau penodol CBAC, ac maen nhw’n ymdrin â phynciau fel grwpiau nwyddau bwyd, deiet ac iechyd, a choginio.
Yn ogystal, mae CBAC yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i gefnogi athrawon a chanolfannau i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster newydd hwn.
Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o gyflwyno a gweithredu asesiadau digidol yn llwyddiannus. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau yn y gofod hwn drwy ein tudalen moderneiddio asesu.