NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

12.12.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ein Hadroddiad Blynyddol 2025

Edrych yn ôl ar y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ein cyflawniadau a'n gweithgareddau

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol diweddaraf heddiw, gan nodi degawd ers ei sefydlu ac yn myfyrio ar flwyddyn o gynnydd sylweddol wrth siapio cymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad, sy'n edrych yn ôl ar flwyddyn academaidd 2024-25, yn amlygu cyflwyniad llwyddiannus y cymwysterau TGAU newydd cyntaf a gynlluniwyd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gyda chymwysterau pellach wedi eu cymeradwyo i'w cyflwyno y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Mae'r newidiadau hyn yn cynrychioli'r diwygiad mwyaf cynhwysfawr o gymwysterau cyn-16 a wnaed erioed yng Nghymru, gan sicrhau bod gan ddysgwyr ddewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau sy'n cyd-fynd yn llawn â'r cwricwlwm. 

Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker:
“Mae ein gwaith i ddylunio a chyflwyno cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol gwneud-i-Gymru ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed wedi parhau ar gyflymder, ac mae wedi bod yn ffocws enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf. 

“Mae’r cymwysterau hyn yn ganlyniad cydweithio helaeth â dysgwyr, arbenigwyr pwnc ac athrawon, a byddan nhw’n rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo mewn bywyd, dysgu a gwaith.” 

Ochr yn ochr â diwygiadau cyn-16, mae'r sefydliad wedi gweithio gyda cholegau a chyrff dyfarnu i sicrhau ystod gynaliadwy o gymwysterau ôl-16 mewn sectorau allweddol fel diwydiannau tir, teithio a thwristiaeth, a lletygarwch ac arlwyo. Mae hyn yn ymestyn argaeledd cymwysterau dwyieithog sydd wedi cael eu dylunio i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. 

Dywedodd Cadeirydd Cymwysterau Cymru, Paul Bevan:
“Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod cymwysterau’n parhau i fod yn berthnasol, yn drylwyr ac yn ymatebol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr. 

“Rydyn ni’n falch o’r partneriaethau sydd wedi galluogi’r newidiadau hyn ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn.” 

Mae'r adroddiad hefyd yn cadarnhau dychweliad llyfn i'r trefniadau cyn-bandemig ar gyfer dyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, gyda chanlyniadau'n weddol gyson â blynyddoedd blaenorol – sy’n sicrhau hyder y cyhoedd o ran uniondeb y system gymwysterau. 

Gan edrych ymlaen i 2026, bydd Cymwysterau Cymru yn cymryd y camau olaf tuag at sicrhau'r ystod lawn o Gymwysterau Cenedlaethol 14–16 ac yn monitro effaith diwygiadau cwricwlwm ac asesu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr, ar ddysgwyr yng Nghymru. 

Mae Adroddiad Blynyddol 2025 Cymwysterau Cymru ar gael ar ein gwefan ac mae'n cynnwys mewnwelediad manwl i’n gwaith ymgysylltu, gweithgareddau rheoleiddio, a blaenoriaethau'r dyfodol.