NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

13.01.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU

Trosolwg o ganlyniadau Mis Tachwedd 2021

Roedd cyfres arholiadau mis Tachwedd 2021 yn eithriadol oherwydd COVID-19 a'r tarfu parhaus ar addysgu a dysgu drwy gydol y flwyddyn.

Hoffem ganmol gwydnwch yr holl ddysgwyr a safodd yr arholiadau hyn a diolch i'r holl ysgolion, colegau a chanolfannau eraill a weithiodd yn galed i gynnal y gyfres arholiadau hon yn ystod y pandemig.

Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaeth dysgwyr sefyll arholiadau TGAU Mathemateg, TGAU Mathemateg-Rhifedd, TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith. Gwnaethom gyhoeddi ystadegau swyddogol [1] ar y cofrestriadau ar 3 Rhagfyr 2021.

Roedd cyfanswm o 13,105 o gofrestriadau yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd 2021, i fyny 7,490 (133%) o fis Tachwedd 2020. Er gwaethaf y cynnydd mawr eleni, mae'r cofrestriadau'n parhau'n is nag mewn cyfresi  mis Tachwedd cyn y pandemig. Roedd y mwyafrif (91%) o gofrestriadau TGAU mis Tachwedd 2021 ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 11, i fyny 31% o gymharu â mis Tachwedd 2020.

Aseswyd y dysgwyr yn unol â gofynion asesu addasedig CBAC yn y gyfres hon. Gwnaethom fonitro'n agos ddarpariaeth CBAC o'r gyfres hon a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn y cyd-destun hwn. Rydym yn hyderus bod prosesau cytûn wedi eu dilyn a bod y dyfarniadau mor deg â phosibl i ddysgwyr.

Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau ar gyfer cyfres Tachwedd 2021 ar ei wefan ddydd Iau 13 Ionawr 2022.

[1] Cymwysterau Cymru / Cofrestriadau TGAU dros dro mis Tachwedd 2021 ar gyfer Cymru