Paratoi ar gyfer cyfres arholiadau haf 2025
Mae Kerry Davies, Pennaeth Monitro Cymwysterau Cyffredinol a Safonau yn amlinellu ein dull o osod safonau a nodiadau atgoffa pwysig ar gyfer ysgolion a cholegau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer arholiadau'r haf.

Cyn bo hir bydd dysgwyr yng Nghymru yn sefyll arholiadau fel rhan o gyfres arholiadau haf 2025 – gyda’r arholiadau TGAU cyntaf yn cael eu cynnal ar 7 Mai. Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod pan mae canolfannau yn brysur yn helpu dysgwyr i orffen eu cyrsiau ac yn eu hannog i roi eu hamser i adolygu.
Ar adeg pan all arholiadau ac asesiadau ddominyddu calendr ysgolion a cholegau, roedden ni am roi amlinelliad cynnar i chi o'n hymagwedd at safonau eleni, y cymorth sydd ar gael i ganolfannau, a'r adnoddau a all helpu dysgwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.
Ymagwedd haf 2025 at ddyfarnu, a chanlyniadau
Yr haf hwn, bydd ansawdd y gwaith (y lefel o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth) y bydd pwyllgorau dyfarnu yn chwilio amdano ym mhob gradd o’r un ansawdd, neu safon, ag yr oedd ar gyfer graddau cyfatebol cyn y pandemig. Dylai perfformiad y dysgwr adlewyrchu'r safonau cyrhaeddiad sy'n ofynnol ar y radd honno.
Bydd pwyllgorau dyfarnu CBAC yn defnyddio cydbwysedd o farn arbenigwyr pwnc ar sgriptiau dysgwyr, ynghyd â gwybodaeth ansoddol ac ystadegol arall, i osod ffiniau graddau ar gyfer pob papur arholiad ac asesiad. Darganfyddwch fwy am sut mae graddau'n cael eu penderfynu.
Er y gall fod rhagdybiaethau bod ffiniau graddau yn aros yr un fath o un flwyddyn i’r llall, maen nhw mewn gwirionedd yn cael eu gosod ar gyfer pob cyfres, oherwydd mae'n anodd iawn i'r corff dyfarnu osod papur arholiad gyda'r un lefel o her â phapur y flwyddyn flaenorol. Er y bydd sefydlogrwydd cymharol, o ystyried bod papurau wedi'u bwriadu i fod â’r un lefel o her, rydyn ni’n disgwyl gweld rhai newidiadau bach. Am y rheswm hwn, mae ffiniau graddau yn cael eu gosod ar sail perfformiad dysgwyr ym mhob papur arholiad penodol ym mhob cyfres.
Gellir cyfeirio at ein dull o osod safonau fel dull sy’n cyfeirio at gyrhaeddiad oherwydd ei fod yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau tystiolaeth, gan gynnwys barn arbenigol ar y lefelau cyrhaeddiad a welir mewn sampl o waith dysgwyr, a gwybodaeth ystadegol. Gallwch ddysgu mwy am hyn mewn adroddiad a gomisiynwyd gennym yn ddiweddar gan Ganolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen.
Mae wedi bod yn bwysig i system gymwysterau Cymru ddychwelyd i'r trefniadau sefydledig, i ddiogelu cyfredoldeb a chludadwyedd cymwysterau a gaiff eu sefyll gan ddysgwyr ar ôl y pandemig. Rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn myfyrio ar y dull rydyn ni wedi'i ddefnyddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy gyfnod trosiannol o drefniadau asesu amgen.
Gallai gosod ffiniau graddau ar y safon cyrhaeddiad ofynnol yr haf hwn weld ffiniau graddau yn codi mewn rhai pynciau - o'i gymharu â lle maen nhw wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Os yw perfformiad yn parhau i ddangos adferiad, yna dylai canlyniadau fod yn debyg i ganlyniadau cyn y pandemig yn y rhan fwyaf o bynciau.
Gallai gwelliant mewn perfformiad weld canlyniadau mewn rhai pynciau, ac ar rai graddau, yn codi uwchlaw lefelau 2019. Fodd bynnag, os yw perfformiad dysgwr yn is na'r safonau cyrhaeddiad gofynnol, yna gallai canlyniadau mewn rhai pynciau ac ar rai graddau ostwng yn is na'r lefelau cyn y pandemig.
Sicrhau bod y gyfres yn digwydd yn ddidrafferth
Ers y pandemig, rydyn ni hyd yn oed yn fwy ymwybodol o'r potensial i ddigwyddiadau arwain at darfu sylweddol ar y tymor arholiadau ac asesu.
Mae'n bwysig i ganolfannau fod â chynlluniau wrth gefn yn eu lle fel eu bod yn barod ar gyfer unrhyw beth a allai achosi aflonyddwch. Mae cael cynllun sy'n nodi beth fyddai'n digwydd pe bai digwyddiad lleol - fel toriad pŵer neu lifogydd - yn golygu y dylai dysgwyr barhau i allu sefyll eu harholiadau, hyd yn oed os oes rhaid iddyn nhw symud i leoliad arall. Gweler ein canllawiau cynlluniau wrth gefn i’ch galluogi i gynnal cyfres o arholiadau yn ddidrafferth.
Mae ein canllawiau hefyd yn atgoffa canolfannau o'r angen i baratoi tystiolaeth o gyrhaeddiad dysgwyr. Yn yr achos annhebygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ganslo'r gyfres gyfan, bydd hyn yn cefnogi gwydnwch y sector, trwy wneud yn siŵr y gallai dysgwyr gael graddau wedi’u pennu gan y ganolfan ar sail tystiolaeth cyrhaeddiad, os oes angen.
Cefnogi dysgwyr
Gyda'r arholiadau cyntaf yn prysur agosáu, hoffem atgoffa canolfannau o'r canllawiau adolygu a'r cymorth lles sydd ar gael i bob dysgwr, p'un ai ydyn nhw’n sefyll cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol. Gellir cael gafael ar y rhain i gyd trwy wefan Lefel Nesa ar Hwb, sy'n gydweithrediad rhyngom ni, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Mae yna lawer o wybodaeth hefyd yn ein Canllaw i Ddysgwyr 2025.