Paratoi ar gyfer TGAU newydd mewn addysg gorfforol ac iechyd – yn dod ym mis Medi 2026
Mae Tom Croke, Rheolwr Cymwysterau, yn ystyried hyblygrwydd TGAU newydd mewn addysg gorfforol ac iechyd a beth gall athrawon a dysgwyr ei ddisgwyl o'r cymhwyster newydd.
Mae TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd yn gymhwyster gafaelgar, perthnasol a chynhwysol sydd wedi cael ei gynllunio i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu arferion cadarnhaol gydol oes sy'n cyfrannu at eu hiechyd a lles corfforol a meddyliol. Trwy ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau corfforol, mae'r cymhwyster yn annog dysgwyr i archwilio datblygiad personol mewn ffyrdd sy'n berthnasol i’w diddordebau a'u hanghenion.
Mae'r TGAU hwn wedi cael ei ddatblygu'n ofalus i gefnogi ystod eang o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd â lefelau gwahanol o allu mewn chwaraeon cystadleuol. Er bod perfformiad ymarferol mewn cyd-destun cystadleuol yn elfen ofynnol o'r cymhwyster, mae hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o weithgarwch corfforol, iechyd a lles. Drwy ganolbwyntio ar hygyrchedd a chynhwysiant, mae'r cymhwyster yn sicrhau bod gan bob dysgwr gyfle i ffynnu a meithrin arferion gydol oes ar gyfer byw'n iach.
Bydd y cymhwyster newydd hwn ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Beth sy'n newid yn y TGAU newydd?
Ffocws ehangach ar iechyd a lles
Un o'r newidiadau mwyaf amlwg yw teitl y cymhwyster, sydd bellach yn cynnwys 'iechyd' yn benodol. Mae hyn yn adlewyrchu dull ehangach a mwy integredig tuag at addysg gorfforol, un sy'n cydnabod pwysigrwydd iechyd a lles fel rhan o ddatblygiad cyffredinol y dysgwr. Yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru, mae'r TGAU newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddeall sut mae gweithgarwch corfforol yn cyfrannu at iechyd gydol oes.
Mae'r newid hwn yn sicrhau bod y cymhwyster nid yn unig yn cefnogi dysgwyr sy'n ffynnu mewn chwaraeon cystadleuol, ond mae hefyd yn cefnogi rheiny sy'n cael eu hysgogi gan ffitrwydd personol, lles, a dewisiadau ar gyfer byw’n iach.
Gofynion asesu di-arholiad diwygiedig ac arholiad ar-lein
Mae'r cymhwyster newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar asesiad di-arholiad, sy'n cyfrif am 60% o'r radd gyfan. Mae'r newid hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan yn weithredol ac yn galluogi dysgwyr i ddangos eu perfformiad a'u dealltwriaeth trwy ymgysylltu â'u dewis o chwaraeon a/neu weithgaredd corfforol.
Bydd dysgwyr nawr yn cael eu hasesu mewn hyd at ddau fath o chwaraeon neu weithgareddau corfforol, gyda'r hyblygrwydd ychwanegol i ddewis hyfforddi fel un o'u hopsiynau; nodwedd newydd a ofynnwyd amdano gan nifer o bobl. Bydd dysgwyr hefyd yn cynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgaredd hyfforddi personol.
Mae arholiad newydd a fydd yn ddigidol yn unig, sy'n targedu gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion addysg gorfforol ac iechyd, yn ffurfio'r 40% sy'n weddill o'r asesiad. Mae asesu ar y sgrin yn cynnig dull mwy hygyrch a gafaelgar, gyda dysgwyr yn ymateb yn uniongyrchol i recordiadau o berfformiadau.
Rhestr wedi'i diweddaru o chwaraeon a gweithgareddau corfforol
Er mwyn cefnogi dull mwy cynhwysol, mae'r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol wedi cael ei hadolygu a'i diweddaru. Mae'r rhestr newydd yn cynnwys amrywiaeth ehangach o opsiynau, gan gynnwys boccia, sglefrio ffigwr, cicfocsio, rasio BMX a sglefrfyrddio, gan adlewyrchu tueddiadau cyfranogiad cyfredol a sicrhau perthnasedd i ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol. Mae'r ehangiad hwn yn galluogi dysgwyr i ddewis gweithgareddau sy'n berthnasol i’w diddordebau a'u cryfderau personol.
Gyda'i gilydd, mae'r newidiadau hyn yn cefnogi cymhwyster mwy cytbwys a chynhwysol sy'n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion ystod ehangach o ddysgwyr.
Cefnogi canolfannau trwy newid
Dros y flwyddyn i ddod, bydd CBAC yn cyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cymhwyster hwn, gan gynnwys:
- canllawiau i’r manylebau
- sesiynau briffio ar-lein byw ar y cymwysterau
- digwyddiadau wyneb yn wyneb 'Paratoi i Addysgu'
- canllawiau i asesiadau
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.