Pob Lwc i bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau
Hoffai pawb yn Cymwysterau Cymru ddymuno ‘pob lwc’ i bob dysgwr sy’n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni.
Bydd yr ail Ddiwrnod Pob Lwc swyddogol yn cael ei gynnal eleni, sef diwrnod i ddathlu llwyddiannau pob dysgwr ledled Cymru sydd wedi gweithio’n galed yn astudio ar gyfer eu cymwysterau ac i ddymuno pob lwc iddyn nhw wrth i gyfres arholiadau’r haf ddechrau.
Fel rhan o’r ymgyrch Lefel Nesa ar y cyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, CBAC, Gyrfa Cymru ac E-sgol, mae Diwrnod Pob Lwc yn ymwneud â chefnogi dysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr y rhai sy’n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni.
Mae heddiw’n ymwneud â dathlu’r ymdrechion y mae pob dysgwr wedi’u gwneud i baratoi ar gyfer eu harholiadau a’u hasesiadau. Ymunwch â ni i ddymuno pob lwc i unrhyw ddysgwyr rydych chi'n eu hadnabod sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau yr haf yma.
Y llynedd, fe wnaeth dysgwyr yng Nghymru sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig. Yr haf yma, mae’r daith yn ôl i drefniadau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig yn parhau. Bydd arholiadau’n cael eu cynnal eto yn ystod mis Mai a mis Mehefin, gydag asesiadau di-arholiad eisoes wedi’u cwblhau mewn nifer o bynciau.
Mae arholiadau ac asesiadau yn caniatáu i ddysgwyr ennill cymwysterau sy'n mesur yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall, ac yn gallu ei wneud. A bydd y cymwysterau maen nhw'n eu hennill yn eu cefnogi i gymryd eu camau nesaf ac i symud ymlaen i addysg neu gyflogaeth barhaus.
Os ydych chi’n sefyll arholiadau a/neu asesiadau yr haf yma – pob lwc! Rydych chi eisoes wedi dod mor bell yn eich llwyddiannau addysgol - pob lwc gyda'ch camau nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am arholiadau ac asesiadau eleni, ynghyd â mynediad at adnoddau adolygu, cymorth lles a chyngor gyrfaoedd, ewch i wefan Lefel Nesa.