Pob lwc i bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau
Wrth i ni agosáu at wyliau'r Pasg, mae llawer o ddysgwyr ledled y wlad yn parhau i baratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau a fydd yn cael eu cynnal o fis Mai. Mae Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru, yn dymuno pob lwc i ddysgwyr ac yn rhannu ble gallan nhw gael gafael ar gymorth.
Mewn ychydig wythnosau, bydd y gyfres arholiadau ac asesiadau haf blynyddol yn dechrau, a bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod ac yn gallu ei wneud wrth iddyn nhw gwblhau eu cymwysterau. Mae sefyll arholiadau a chwblhau asesiadau yn golygu y bydd dysgwyr yn derbyn graddau i'w cefnogi wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Er bod y Pasg yn gyfle i ddysgwyr a staff addysgu ymlacio a chael seibiant, mae hefyd yn amser defnyddiol i ddechrau adolygu cyn y cyfnod arholiadau prysur. Mae digon o adnoddau a chymorth ar gael i ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.
Rydyn ni’n deall y gall paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau fod yn gyfnod anodd. P'un ai ydych chi’n ymgymryd â chymwysterau cyffredinol, cymwysterau galwedigaethol, neu'r ddau, mae amrywiaeth eang o adnoddau a chymorth ar gael i'ch helpu chi i gymryd y cam pwysig yma yn eich addysg:
- ysgolion a cholegau yw'r pwynt cyswllt cyntaf bob amser os oes gennych chi unrhyw gwestiynau
- mae cyrff dyfarnu hefyd yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac adnoddau
- mae canllawiau adolygu, awgrymiadau ar gyfer parhau i fod yn llawn cymhelliant a chymorth llesiant ar gael trwy Hwb Lefel Nesa Llywodraeth Cymru
- Mae Cymwysterau Cymru wedi creu canllaw arbennig i ddysgwyr ac mae yna lawer o wybodaeth ar ein gwefan hefyd
Hoffai pob un ohonom yn Cymwysterau Cymru ddymuno pob lwc enfawr i'r holl ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni. Da iawn am yr holl ymdrech rydych chi wedi'i wneud. Rydych chi eisoes wedi dod mor bell yn eich llwyddiannau addysgol - pob lwc gyda'ch camau nesaf.