Pob Lwc i bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau
Ar Ddiwrnod Pob Lwc cyntaf Cymru, hoffai pawb yn Cymwysterau Cymru ddymuno Pob Lwc i bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni.
Fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd Lefel Nesa mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, CBAC, Gyrfa Cymru ac E-sgol, pwrpas Diwrnod Pob Lwc yw cefnogi dysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr y rhai sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni.
Mae llawer yn digwydd heddiw i ddathlu ymdrechion pob dysgwr wrth baratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau. Fe welwch amrywiaeth o negeseuon Pob Lwc ledled Cymru, gyda negeseuon pob lwc yn cael eu rhannu ymhell ac agos. Ymunwch â ni i ddymuno Pob Lwc i unrhyw ddysgwyr rydych chi'n eu hadnabod sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau yr haf hwn.
Mae arholiadau, asesiadau, asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad yn cael eu cynnal eleni am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar addysgu a dysgu, ac i lawer o ddysgwyr, eleni yw'r tro cyntaf iddyn nhw sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol. Dyna pam rydyn ni wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y caiff dysgwyr eu hasesu eleni, i'w wneud mor deg â phosibl o ystyried yr amhariad ar addysg.
Nid yw paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau byth yn hawdd, a bydd llawer o ddysgwyr yng Nghymru yn teimlo'n bryderus am gyfres arholiadau'r haf. Fodd bynnag, mae arholiadau ac asesiadau yn caniatáu i ddysgwyr ennill cymwysterau sy'n mesur yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. A bydd y cymwysterau maen nhw’n eu hennill yn eu cefnogi i gymryd eu camau nesaf a symud ymlaen i addysg neu gyflogaeth barhaus.
Pob Lwc i bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau yr haf hwn, rydych chi eisoes wedi dod mor bell yn eich cyflawniadau addysg – pob lwc gyda'ch camau nesaf.
Am fwy o wybodaeth am arholiadau ac asesiadau eleni, yn ogystal â mynediad at adnoddau adolygu, cymorth lles a chyngor gyrfaoedd, ewch i wefan Lefel Nesa.