NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

04.05.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Prosesau ystyriaeth arbennig yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i'r canllawiau iechyd cyhoeddus ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau yr haf hwn.

Mae'r canllawiau wedi cael eu diweddaru i leihau cyfnodau ynysu er mwyn galluogi dysgwyr i fynychu eu harholiadau lle bynnag y bo modd. Bydd dysgwyr yn gallu mynychu arholiadau ar ôl cyfnodau o hunanynysu byrrach os ydyn nhw’n cael prawf negatif am COVID-19.  

Er mwyn cefnogi dysgwyr, ysgolion a cholegau, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y broses 'ystyriaeth arbennig' ar gyfer eleni – gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer canolfannau yng Nghymru.  

Mae CBAC wedi cysylltu â phob canolfan ledled y wlad i roi gwybod iddynt fod canllawiau'r JCQ bellach ar gael.  

Dylai dysgwyr, rhieni, ysgolion a cholegau yng Nghymru ymgyfarwyddo â'r canllawiau 'ystyriaeth arbennig' cyn dechrau cyfres arholiadau'r haf hwn. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CBAC.