NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

12.04.22

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Hyder yn system gymwysterau Cymru yn parhau i fod yn uchel

Wrth i arholiadau ddychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, mae hyder y cyhoedd mewn cymwysterau yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel - er gwaethaf yr aflonyddwch ar addysg o ganlyniad i bandemig Covid.

Mae ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer Cymwysterau Cymru yn awgrymu bod ‘dealltwriaeth dda’ o gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, a’u bod yn gymwysterau ‘dibynadwy’ sy’n baratoad da ar gyfer astudio ymhellach.  

Mae'r arolwg a gynhaliwyd gan Beaufort Research hefyd yn dangos bod cefnogaeth gynyddol i ac ymwybyddiaeth o Fagloriaeth Cymru. 

Canfyddiadau allweddol 

UG/Safon Uwch: mae hyder y cyhoedd mewn UG/Safon Uwch yn parhau i fod yn uchel, ac maent yn cael eu hystyried yn gymwysterau dibynadwy ac yn ffordd dda o baratoi ar gyfer astudio ymhellach. 

TGAU: mae TGAU yn cael ei ystyried yn ‘gymhwyster dibynadwy’ y mae gan y cyhoedd yng Nghymru ddealltwriaeth dda ohono. 

Bagloriaeth Cymru: mae ymwybyddiaeth o Fagloriaeth Cymru yn parhau i godi ymhlith y cyhoedd, gyda bron i 80% o oedolion yn dweud eu bod wedi clywed amdani. Mae cefnogaeth gynyddol i elfen Tystysgrif Her Sgiliau y cymhwyster, gyda 68% o bobl yn cytuno bod ‘astudio ar gyfer Tystysgrif Her Sgiliau yn werthfawr i ddyfodol pobl ifanc’. 

Cymwysterau galwedigaethol: mae cyfraddau cymeradwyo ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yn uchel. Mae ychydig dros wyth o bob deg oedolyn yng Nghymru yn cytuno bod ‘cymwysterau galwedigaethol, a astudir yn yr ysgol, yn werthfawr ar gyfer dyfodol pobl ifanc’. 

Gellir darllen yr adroddiad llawn, Arolwg o farn y cyhoedd ar gymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru 2021, ar wefan Cymwysterau Cymru.