Pynciau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) newydd wedi’u cadarnhau
Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r 15 pwnc TAAU a fydd ar gael i ddysgwyr rhwng 14aci 16 oed o fis Medi 2027.
Yn ôl ym mis Ionawr fe wnaethom gyhoeddi ystod newydd o gymwysterau galwedigaethol sy'n gysylltiedig â gwaith, o'r enw TAAU, i alluogi pobl ifanc i ddysgu am feysydd galwedigaethol trwy ddull mwy ymarferol o ddysgu ac asesu.
Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, fe wnaethom ailedrych ar gynlluniau i ddatblygu cymwysterau TGAU diwygiedig mewn tri phwnc penodol - yr amgylchedd adeiledig, peirianneg, ac iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant - er mwyn gweld a fyddent yn fwy addas fel cymwysterau TAAU.
Ar ôl cyfnod o ymgynghori pellach, gallwn gadarnhau y bydd cymwysterau diwygiedig mewn amgylchedd adeiledig a pheirianneg yn cael eu datblygu fel cymwysterau TAAU. Bydd iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn parhau i gael ei ddatblygu fel cymhwyster TGAU.
Wrth ymgynghori ar ddatblygiad y cymhwyster peirianneg, gwnaethom hefyd holi am ddatblygiad cymhwyster TAAU mewn gweithgynhyrchu os oeddem yn mynd i gyflwyno cymhwyster TGAU mewn peirianneg. Yn dilyn y penderfyniad i gyflwyno cymhwyster TAAU mewn peirianneg, gallwn gadarnhau na fyddwn yn cyflwyno cymhwyster TAAU ar wahân mewn gweithgynhyrchu.
Darllenwch fanylion yr ymgynghoriad a'r penderfyniadau yn llawn yma.
Y gyfres lawn o gymwysterau TAAU
Mae'r gyfres lawn o 15 TAAU sy'n cael eu datblygu i'w haddysgu o fis Medi 2027 bellach fel a ganlyn:
- amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth
- gofal anifeiliaid
- yr amgylchedd adeiledig
- busnes, cyfrifeg a chyllid
- cynhyrchu creadigol a’r cyfryngau, a thechnoleg
- peirianneg
- gwallt a harddwch
- lletygarwch ac arlwyo
- cynnal a chadw cerbydau modur
- adfer natur
- y celfyddydau perfformio
- gwasanaethau cyhoeddus
- manwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid
- chwaraeon a hamdden
- teithio a thwristiaeth
Cefndir yr ymgynghoriad
Daw'r penderfyniadau diweddaraf hyn yn dilyn ymgynghoriadau pellgyrhaeddol ar gymwysterau TGAU a chymwysterau galwedigaethol fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o'r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Cadarnhaodd yr ymgynghoriad TGAU yn wreiddiol y byddai cymhwyster TGAU ym mhob un o'r tri phwnc, ond nid oedd y cynnig galwedigaethol llawn wedi'i ddatblygu'n llawn ar y pryd. Gyda chreu'r brand TAAU newydd, roeddem o'r farn bod angen ystyried a thrafod ymhellach i weld a fyddai'r pynciau hyn yn cael eu cyflwyno’n well o dan y brand galwedigaethol newydd.
Roedd nifer o ystyriaethau allweddol a helpodd i ddylanwadu ar ein penderfyniadau, gan gynnwys:
- adborth ar y cymwysterau presennol yn y pynciau hyn a’r nifer sy'n manteisio arnynt
- anghenion a dewisiadau dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau yn y pynciau hyn ar hyn o bryd
- llwybrau cynnydd, o gymwysterau Sylfaen ac ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth yn y meysydd hyn
- cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith i gyflawni unrhyw elfennau galwedigaethol o'r cymhwyster
Y camau nesaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
Gyda'r penderfyniad i gyflwyno cymhwyster TGAU mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, bydd cyflwyno’r cymhwyster hwn yn rhan o amserlen cymwysterau TGAU Cam 2 (y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2026). Gellir gweld y meini prawf cymeradwyo (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei awdurdodi) ar gyfer y cymhwyster hwn i’w gweld yma.
Ochr yn ochr â'r TGAU mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, byddwn hefyd yn datblygu cymhwyster Sylfaen i ddarparu opsiwn galwedigaethol yn y maes pwnc hwn. Bydd uned 'gofalu am eraill' hefyd ar gael fel rhan o'r Gyfres Sgiliau newydd.
Y camau nesaf ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a pheirianneg
Byddwn yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer pob cymhwyster TAAU tua diwedd y flwyddyn. Yna bydd cyrff dyfarnu yn gallu dechrau datblygu eu manylebau drafft i'w cymeradwyo.
Ymunwch â'n gweithdai ar-lein
Byddwn yn cynnal gweithdai ar-lein gyda rhanddeiliaid i gefnogi datblygiad y meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau TAAU a’r cymwysterau Sylfaen sy’n gysylltiedig â gwaith. Y dyddiadau ar gyfer y rhain yw:
- Iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant:Dydd Mawrth 17 Medi 10am-12pm (cymhwyster Sylfaen sy'n gysylltiedig â gwaith YN UNIG)
- Yr amgylchedd adeiledig:Dydd Mercher 18 Medi 10am-12pm (cymwysterau TAAU a Sylfaen sy'n gysylltiedig â gwaith)
- Peirianneg: Dydd Iau 19 Medi 10am-12pm (cymwysterau TAAU a Sylfaen sy'n gysylltiedig â gwaith)
Os hoffech fod yn rhan o'r trafodaethau hyn, cysylltwch â diwygio@cymwysterau.cymru.