NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

06.10.21

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU

Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dull graddio 2022

Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r dull graddio a'r cynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfres arholiadau haf 2022 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC.

Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r dull graddio a'r cynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfres arholiadau haf 2022 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC. 

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau yn haf 2022, ac y byddai'r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC yn cael eu haddasu er mwyn lleihau effaith colli amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. 

Ym mis Gorffennaf 2021, ymgynghorodd CBAC â dysgwyr, rhieni, ysgolion a cholegau ynghylch y newidiadau arfaethedig ac ym mis Medi 2021, cyhoeddodd CBAC wybodaeth i ddysgwyr a rhieni am y newidiadau i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Addasiadau Haf 2022  (cbac.co.uk) 2022 a'r Dystysgrif Her Sgiliau.

Dull graddio 

Gydag arholiadau’n dychwelyd, bydd CBAC yn dyfarnu graddau i ddysgwyr yn haf 2022. Rydym wedi holi barn rhanddeiliaid ac hefyd wedi ystyried y dulliau sy'n cael eu defnyddio gan reoleiddwyr cymwysterau mewn rhannau eraill o'r DU.

Ar gyfer haf 2022, rydym wedi penderfynu alinio â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru dan anfantais o gymharu â dysgwyr yn Lloegr yn enwedig lle defnyddir cymwysterau i symud ymlaen i sefydliadau addysg uwch. Hynny yw, i drin 2022 fel blwyddyn bontio i adlewyrchu ein bod mewn cyfnod adfer yn sgil pandemig a bod amharu wedi bod ar addysg dysgwyr. Yn 2022, anelwn, felly, at i ganlyniadau adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019. Yn 2023 rydym yn anelu at ddychwelyd at ganlyniadau sy'n unol â'r rhai mewn blynyddoedd cyn pandemig. 

Fel yn haf 2021, mae'n flaenoriaeth bod y graddau y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn eu helpu i symud ymlaen i gam nesaf eu taith ddysgu a/neu gyflogaeth. Wrth ddod i'r penderfyniad i ddefnyddio'r dull hwn, rydym ni wedi ystyried buddiannau dysgwyr haf 2022 a'r rheini yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda rheoleiddwyr eraill ledled y DU i alinio ein dull ar gyfer haf 2022 fel bod y broses raddio’n deg i ddysgwyr. 

Bydd y penderfyniad ar y dull o raddio TGAU, UG a Safon Uwch yn cael effaith ar rai cymwysterau galwedigaethol a ddefnyddir at ddibenion tebyg, gan gynnwys symud ymlaen i astudiaeth bellach. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried y dull a ddefnyddir ar gyfer TGAU a Safon Uwch wrth osod safonau mewn cymwysterau galwedigaethol fel nad yw dysgwyr galwedigaethol dan anfantais o gymharu â dysgwyr sy'n cymryd TGAU a Safon Uwch. 

Dull wrth gefn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch - haf 2022 

Er y disgwylir y bydd cymwysterau'n cael eu hasesu yn y ffordd arferol, drwy arholiadau a/neu asesiadau di-arholiad gydag addasiadau, gallai fod newidiadau yn sefyllfa iechyd y cyhoedd sy'n arwain at ganslo'r gyfres arholiadau. 

Os bydd arholiadau'n cael eu canslo, gofynnir i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau a bennir gan y canolfannau i ddysgwyr. Byddai'r dull graddau a bennir gan ganolfannau’n debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn 2021, ond gyda rhai gwelliannau i ystyried y dysgu o ddull eleni.  

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, 

“Bydd llawer o ddysgwyr sy'n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2022 wedi wynebu aflonyddwch digynsail i'w haddysg dros y 18 mis diwethaf ac rydym am sicrhau bod eu hasesiadau yr haf nesaf mor deg â phosibl. Y flwyddyn nesaf byddwn yn dychwelyd i asesiadau arferol sydd yn darparu dull teg a chyson i ddysgwyr. 

“Rydym wedi ystyried y ffordd decaf i ddyfarnu graddau, gan ystyried barn rhanddeiliaid ledled Cymru yn ogystal â gweithio gyda rheoleiddwyr cymwysterau  arall ledled y DU. Bydd ein hymagwedd yn cyd-fynd â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau yn 2022 yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019 ac yn darparu chwarae teg i ddysgwyr Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gwneud cais am fynediad i brifysgolion ledled y DU.   

“Mae hwn yn gyfnod ansicr ac os bydd amgylchiadau'n newid, a bod y gyfres arholiadau'n cael ei chanslo rydym yn darparu cynlluniau wrth gefn a fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau mewn dull sy’n seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd yn haf 2021. Byddwn yn gweithio gyda CBAC i hysbysu ysgolion a cholegau o'r cynlluniau hyn fel bod pawb yn glir ynghylch beth sydd angen ei wneud. 

“Rydym yn gwybod y gall dysgwyr fod yn bryderus a bod ganddynt bryderon ynghylch dychwelyd i arholiadau, a dyna pam, rydym yn cynllunio ystod o gyfathrebu i'w cefnogi nhw.’’