Cyhoeddi Fframwaith Rheoleiddio newydd
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith Rheoleiddio newydd sy'n nodi'r rheolau ar gyfer cyrff dyfarnu a'r cymwysterau maen nhw’n eu datblygu, eu cynnig a'u dyfarnu i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae'r Fframwaith Rheoleiddio yn amlinellu'r gofynion a'r disgwyliadau ar draws ein hystod o gymwysterau cymeradwy, dynodedig a rheoleiddiedig eraill.
Wedi'i ddylunio fel pecyn cymorth rhyngweithiol, mae'r fframwaith newydd wedi'i baratoi ar ôl adolygiad helaeth. Rydyn ni wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu i sicrhau bod ein rheolau'n hygyrch ac yn fwy perthnasol i gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru.
Rydyn ni wedi gwrando ar adborth gan gyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill ac wedi cynnwys eu hawgrymiadau. Mae’r Fframwaith Rheoleiddio newydd:
- yn offeryn rhyngweithiol sy'n hawdd ei ddefnyddio ac mae’n fwy eglur, yn haws i’w lywio ac yn fwy rhyngweithiol
- yn cynnwys gwybodaeth am sut rydyn ni’n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru
- yn fodd i gael at y dogfennau rheoleiddio y mae'n ofynnol i gyrff dyfarnu gydymffurfio â nhw
- â rheolau sydd wedi'u hymgorffori drwyddi draw ac wedi'u grwpio yn ôl math o gymhwyster - fel eu bod yn haws dod o hyd iddyn nhw
Mae'r Fframwaith Rheoleiddio newydd hwn yn disodli ein Fframwaith a Dull Rheoleiddio a’n Rhestr o Ddogfennau Rheoleiddio a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Dywedodd Kath Grenyer, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â ni ar y gwaith hwn, gan gynnig eu sylwadau a rhannu adborth i helpu i lywio ein Fframwaith Rheoleiddio newydd.
Mae'r fframwaith newydd wedi'i ddylunio ar gyfer cyrff dyfarnu rheoleiddiedig a rhanddeiliaid eraill ac mae'n adlewyrchu'r gofynion rheoleiddio a'r disgwyliadau amrywiol ar draws ystod o gymwysterau. Mae rheolau wedi'u hymgorffori trwy'r fframwaith yn seiliedig ar y math o gymhwyster, i'w gwneud hi'n haws i gyrff dyfarnu ddod o hyd iddyn nhw.
Mae'r pecyn cymorth rhyngweithiol newydd hwn wedi'i ddylunio i fod yn symlach i'w lywio, fel bod gwybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei reoleiddio a sut, ynghyd â'n dogfennau rheoleiddio yn haws i gael gafael arnyn nhw."
Mae'r Fframwaith Rheoleiddio newydd ar gael i'w weld ar ein gwefan yma.