Cymwysterau Cymru yn croesawu cyhoeddi cwmni adnoddau addysgol dwyieithog newydd
Mae Cymwysterau Cymru yn croesawu sefydlu cwmni adnoddau addysgol dwyieithog newydd, fel y cyhoeddwyd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg heddiw (dydd Iau 3 Mawrth).
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i sefydlu cwmni newydd fydd yn ymrwymo i ddarparu adnoddau Cymraeg a dwyieithog, a fydd yn gwbl weithredol erbyn Ebrill 2023 i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau: "Mae'n newyddion gwych y bydd corff pwrpasol i sicrhau bod adnoddau newydd ar gael yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Mae hwn yn fater pwysig yr ydym yn ei adolygu gydag athrawon fel rhan o'n rhaglen waith Cymwys ar gyfer y dyfodol.
"Bydd y corff newydd yn cael ei sefydlu ar adeg dyngedfennol i ni, gan ein bod yn disgwyl cwblhau'r gwaith o lunio cymwysterau TGAU newydd 'wedi'u creu i Gymru' y gwanwyn nesaf, yn dilyn misoedd o waith gydag athrawon, dysgwyr, cyflogwyr ac eraill a chasglu adborth ar y cymwysterau ar eu newydd wedd.
"Mae cynllunio cynnar a gweithio ar y cyd ar draws y wlad yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dysgwyr ac athrawon yn gallu manteisio ar adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel cyn i'r cyrsiau ddechrau; roedd hon yn wers allweddol a ddysgwyd gennym o'n gwaith diwygio TGAU blaenorol.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r corff newydd i sicrhau y bydd dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer cymwysterau newydd yn gallu manteisio ar adnoddau perthnasol, diddorol a dwyieithog a fydd yn eu helpu i fanteisio i'r eithaf ar y Cwricwlwm i Gymru."
Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am raglen waith Cymwys ar gyfer y dyfodol ar ein gwefan neu darllenwch y ddogfen gwersi a ddysgwyd o'n gwaith diwygio TGAU blaenorol.