NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

09.04.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Rasio BMX, sglefrfyrddio a saethu wedi eu hychwanegu at rhestr chwaraeon a gweithgareddau corfforol

Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi rhestr gymeradwy a meini prawf ar gyfer asesu pa mor addas yw chwaraeon a gweithgareddau corfforol 

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.  

Ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, cynghorwyr pwnc a chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a’r corff dyfarnu CBAC, i gyd-greu’r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn dewis o’u plith wrth gwblhau’r asesiad di-arholiad (NEA) ar gyfer y cymhwyster hwn  

Mae'r rhestr sydd wedi'i diweddaru wedi'i llunio i gynnwys amrywiaeth gafaelgar a chynhwysol o chwaraeon unigol a chwaraeon tîm priodol a gweithgareddau corfforol i ddysgwyr ddewis o'u plith. 

Mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu ychwanegu’r chwaraeon a’r gweithgareddau corfforol canlynol at y rhestr gymeradwy: 

  • Bowlio Lawnt  
  • Cicfocsio  
  • Futsal  
  • Hoci Rholio  
  • Pêl-law  
  • Rasio BMX   
  • Saethu  
  • Saethyddiaeth  
  • Sglefrfyrddio  
  • Sglefrio Cyflym  
  • Sglefrio Ffigyrau 
  • Tonfyrddio  
  • Twmblo  

Rydyn ni wedi cyhoeddi’r rhestr lawn gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn y meini prawf cymeradwyo wedi’u diweddaru ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd, ochr yn ochr ag adroddiad ‘Ein dull o gyd-greu’r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar gyfer y TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd Gwneud-i-Gymru newydd’  sy’n amlinellu canfyddiadau ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud. 

Dywedodd llefarydd ar ran Beicio Cymru: “Mae’n wych gweld rasio BMX yn cael ei ychwanegu at y rhestr TGAU wedi cymeradwyo ar gyfer Addysg Gorfforol ac Iechyd. Mae’r gamp yn tyfu yng Nghymru a gobeithiwn y bydd dysgwyr yn mwynhau rhoi cynnig ar y gamp wych.” 

Dywedodd Sam Horler, pennaeth gweithredol Skateboard GB yng Nghymru: "Mae'n wych clywed y bydd sglefrfyrddio yn cael ei gynnwys fel camp y gall pobl ifanc ei defnyddio tuag at eu TGAU Addysg Gorfforol yng Nghymru. Mae llawer o sglefrfyrddwyr ar draws y wlad a fydd yn elwa'n fawr o'r diweddariad hwn ac mae’n gam cadarnhaol tuag at gydnabod sglefrfyrddio fel gweithgaredd sydd â gwerth enfawr i'r rhai sydd yn cymryd rhan, ac i'r gymdeithas ehangach."