NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

30.01.25

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Myfyrdodau ar safonau perfformiad yn y daith yn ôl i drefniadau cyn y pandemig

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n archwilio'r broses o ddychwelyd i drefniadau cymwysterau cyn y pandemig.

Yng Nghymru, fel mewn llawer o wledydd, cafodd pandemig Covid-19 effaith sylweddol ar addysgu, dysgu a phresenoldeb mewn ysgolion a cholegau. Arweiniodd yr aflonyddwch hwn at effaith ddilynol ar berfformiad dysgwyr mewn cymwysterau yn y blynyddoedd a ddilynodd.   

 Yn y blynyddoedd a ddilynodd y pandemig, gweithredwyd trefniadau amgen a pholisïau graddio i gefnogi dysgwyr i bontio'n raddol yn ôl i'r trefniadau arferol. Roedd blwyddyn academaidd 2023-2024 yn cynrychioli'r cam olaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i drefniadau cymwysterau cyn y pandemig. 

Rhwng haf 2022 a haf 2024, addasodd CBAC ofynion asesu ac addasu ffiniau graddau, i gefnogi dysgwyr ac i gyfrif am yr aflonyddwch a'r dysgu a gollwyd. Defnyddiodd cyrff dyfarnu hefyd ddulliau tebyg ar gyfer cymwysterau oedd yn cael eu hastudio ochr yn ochr â TGAU a Safon Uwch a ddefnyddir ar gyfer llwybrau cynnydd tebyg. 

Erbyn haf 2024, roedd tystiolaeth bod perfformiad dysgwyr yn gwella. Mewn llawer o bynciau, roedd ffiniau graddau yn agosach at yr hyn oeddent cyn y pandemig. Fodd bynnag, nid oedd y gyfradd adfer yn gyson eto ar draws ystodau gradd gwahanol.    

Am ragor o wybodaeth, gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn: Myfyrdodau ar safonau perfformiad yn y daith yn ôl i drefniadau cyn y pandemig