Adolygiad yn canfod bod cymwysterau gwallt a harddwch yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr
Mae Cymwysterau Cymru wedi cwblhau adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn gwallt a harddwch, gan nodi cryfderau yn ogystal â rhai meysydd y mae angen sylw.
Mae hyn yn rhan o raglen o adolygiadau arbennig, sy'n cwmpasu ystod o sectorau galwedigaethol, sydd wedi'u cynllunio i nodi themâu allweddol a chryfhau'r ddarpariaeth i gefnogi dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.
Roedd yr adolygiad o'r sector gwallt a harddwch yn cynnwys cyfweliadau ag ystod eang o randdeiliaid ac ymatebion i'r arolwg gan ddysgwyr ledled y wlad, gan ganfod bod yr ystod o gymwysterau ar lefelau 1, 2 a 3 yn gyffredinol yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr.
Dangosodd ymatebion o'r arolwg i ddysgwyr fod 91% o ddysgwyr o'r farn bod y cymwysterau maen nhw'n eu hastudio’n ddiddorol ac yn afaelgar.
Canfyddiadau allweddol
Ystod y cymwysterau - Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynnig 98 o gymwysterau gwallt a harddwch dynodedig ar lefel 3 ac is. Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn teimlo bod yr ystod yn ddigonol ac yn hygyrch i bob dysgwr. Dywedodd dysgwyr wrthym hefyd eu bod yn gweld y cymwysterau yn ddiddorol ac yn afaelgar.
Galw am estheteg - Mae galw mawr am gymwysterau estheteg lefel 4, fel micronodwyddo a philio cemegol. Mae darparwyr eisiau i'r rhain gael eu cynnwys mewn fframweithiau prentisiaethau i adlewyrchu anghenion y diwydiant yn well.
Darpariaeth Gymraeg - Er bod 56 cymhwyster ar gael yn Gymraeg, mae diffyg adnoddau dysgu a gwerthusiadau ar-lein yn Gymraeg.
Heriau asesu - Cododd dysgwyr a darparwyr bryderon am y defnydd o iaith gymhleth mewn rhai cwestiynau prawf amlddewis ar-lein, a'r diffyg cydraddoldeb rhwng faint o asesu sydd mewn cymwysterau trin gwallt a chymwysterau harddwch.
Entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth - Gyda llawer o ddysgwyr yn anelu at fod yn hunangyflogedig, argymhellodd rhanddeiliaid gynnwys marchnata busnes a chyfryngau cymdeithasol mewn cymwysterau i baratoi dysgwyr yn well ar gyfer heriau'r byd go iawn.
Cynhwysiant a chynrychiolaeth - Canmolodd cyflogwyr ymdrechion i gynnwys hyfforddiant gwallt gweadog fel rhan o'r cymwysterau trin gwallt ac thynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys cynhwysol i gefnogi dysgwyr a chleientiaid amrywiol.
Y camau nesaf
Er bod ein hadolygiad o gymwysterau Gwallt a Harddwch yng Nghymru wedi nodi llawer o gryfderau, fe wnaethom hefyd nodi rhai meysydd sydd angen ein sylw.
Fe wnaethom ddarganfod bod galw am fwy o gymwysterau estheteg lefel 4, felly rydym wedi archwilio dynodi cymwysterau estheteg yng Nghymru gyda chyrff dyfarnu perthnasol. Dywedodd cynrychiolwyr o VTCT wrthym eu bod yn y broses o gynnig cymwysterau estheteg ychwanegol.
Mae trafodaethau gyda chyrff dyfarnu hefyd wedi digwydd ynghylch cynyddu faint o brofion amlddewis ar-lein sydd ar gael yn Gymraeg. Maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw'n mynd i'r afael â hyn, gyda phrofion ar-lein dwyieithog i'w cael erbyn mis Medi 2026.
Rydym hefyd wedi trafod datblygu cynnwys i gefnogi entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth. Mae cyrff dyfarnu wedi cadarnhau bod ganddynt gymwysterau perthnasol y gellid eu hychwanegu at y rhaglen ddysgu i gefnogi dysgwyr i fod yn hunangyflogedig.
Dywedodd Vicki Stockton, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Mae'r sector hwn yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau a'n heconomïau lleol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cymwysterau’n parhau i fod yn berthnasol, yn gynhwysol ac yn hygyrch."
"Mae darparu mynediad i bobl ifanc at ystod o gymwysterau o safon yn y maes hwn yn arbennig o bwysig i'w cefnogi i ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant hwn."
"Trwy ein hadolygiad sector, rydym wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennym, gan gynnwys sicrhau bod profion ar-lein ar gael yn ddwyieithog. Rydym wedi gofyn i gyrff dyfarnu adolygu a symleiddio'r iaith a ddefnyddir mewn profion ar-lein. Yn ogystal, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i'w cefnogi i ddarparu hyfforddiant ar wallt gweadog math 4. Eglurodd cyrff dyfarnu y gellir efelychu hyfforddiant ar wallt gweadog gan ddefnyddio pennau ymarfer, gan wella hygyrchedd a chynhwysiant."
"Bydd y camau rydym wedi'u hamlinellu mewn ymateb i'r adolygiad hwn yn helpu dysgwyr i symud ymlaen ac i lwyddo mewn diwydiant sy'n newid yn gyflym. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i ymgorffori canfyddiadau llawn yr adolygiad."