Rhoi llenyddiaeth wych wrth wraidd addysg
Cafwyd beirniadaeth nad yw astudio gweithiau llenyddol Cymraeg a Saesneg TGAU yn cael yr un flaenoriaeth ag astudio iaith.
Mae awduron, beirdd ac actorion wedi ymuno ag athrawon ac arbenigwyr addysg eraill i fod yn llafar yn eu barn bod peidio â gwneud llenyddiaeth yn bwnc craidd i ysgolion ei addysgu yn golygu nad yw rhai dysgwyr yn astudio'r pwnc drwodd i 16 oed.
Mae trafod gweithiau llenyddol gwych yn yr ystafell ddosbarth gyda'u hathrawon yn helpu i agor ffyrdd newydd o feddwl a mwy o werthfawrogiad o ddyfeisgarwch iaith i ddysgwyr, maent yn dadlau.
Nid sôn yn unig yr ydym am astudio llenyddiaeth mewn llyfrau. Mae cyfle gwych i fanteisio ar yr ystod eang a chynyddol o offer amlgyfrwng sydd ar gael i ni i danio brwdfrydedd dysgwyr dros lenyddiaeth.
Rydym wedi gwrando ar yr holl safbwyntiau hyn, a llawer o rai eraill, wrth i ni fwrw ati i greu cyfres o gynigion ar gyfer cymwysterau i ddiwallu anghenion cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru i Gymru. Ac rydym yn cytuno.
Rydym wedi nodi mai dim ond fel pwnc dewisol y cynigir llenyddiaeth TGAU mewn rhai ysgolion.
O ystyried y ffocws ar baratoi ar gyfer cymwysterau ym mlynyddoedd 10 ac 11, mae'n ymddangos nad yw rhai dysgwyr yn astudio llenyddiaeth y tu hwnt i 14 oed.
Yn 2018, er enghraifft, roedd 14% yn llai o gofrestriadau ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg na TGAU Saesneg Iaith a 32% yn llai o gofrestriadau ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Gymraeg na TGAU Cymraeg Iaith.
O ganlyniad, teimlwn fod llawer o ddysgwyr yn colli'r cyfle i astudio llenyddiaeth wych mewn sawl fformat gwahanol, gan gynnwys testunau ysgrifenedig a thrwy ddrama ffilm a theledu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hynny'n drueni mawr.
Dyna pam rydym yn cynnig ad-drefnu sut mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu haddysgu hyd at 16 yn ein hymgynghoriad, Cymwys ar gyfer y dyfodol.
Yn ein cynigion a’n gwaith gydag arbenigwyr rydym am ddarganfod a fydd creu TGAU iaith a llenyddiaeth gyfunol yn helpu i sicrhau darpariaeth deg i ddysgwyr o fewn ac ar draws ysgolion. Credwn y bydd y cymwysterau TGAU newydd hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr gael mwy o ddewis ynglŷn â pha gymwysterau eraill y maent am eu hastudio
Er nad oes modd gwadu bod cefnogaeth i lenyddiaeth fod yn bwnc craidd i ysgolion hyd at lefel TGAU yng Nghymru, rydym am ystyried a yw'n bosibl - neu'n ddymunol yn wir - cyfuno astudio iaith a llenyddiaeth.
Rydym wedi astudio hyn ac wedi canfod ei fod yn ddull cyffredin mewn gwledydd eraill - er enghraifft yn Seland Newydd, Iwerddon, yr Alban a De Cymru Newydd yn Awstralia - i gyfuno iaith a llenyddiaeth mewn cymwysterau a gymerir yn 16 oed ac ôl-16 yn gymwysterau sengl. Drwy wneud hynny canfuwyd ei fod yn cryfhau eu gallu i ddarllen, gan arwain at y gwledydd hyn yn perfformio’n gryf mewn asesiadau darllen rhyngwladol PISA o gymharu â dysgwyr yng Nghymru.
PISA yw rhaglen y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae PISA yn mesur gallu plant 15 oed i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth i ymateb i heriau bywyd bob dydd.
Rydym am glywed beth yw barn athrawon a'r cyhoedd am y cynigion hyn, a dyna pam rydym yn gofyn i bawb ddweud eich dweud drwy ein hymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol yn agored tan 9 Ebrill ac mae'n cynnwys cynigion ar gyfer TGAU mewn mathemateg, y dyniaethau, y celfyddydau mynegiannol, gwyddoniaeth a thechnoleg ac iechyd a lles yn ogystal ag iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu. Mae'r ddogfen ymgynghori a manylion am sut i ymateb i'w gweld ar wefan Cymwysterau Cymru - Cymwysterau Cymru / Cymwys ar gyfer y dyfodol – dweud eich dweud
Gan Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau