Rydym yn cynllunio ar gyfer cynnal arholiadau yn haf 2022
Gan fod y flwyddyn academaidd newydd wedi dechrau erbyn hyn, gwn fod pobl ifanc yn eu harddegau sydd i fod i sefyll cymwysterau yn 2022 yn awyddus i wybod a fydd arholiadau'r haf nesaf.
Mae'r newidiadau a wnaed wedi'u datblygu i adlewyrchu'r tarfu ar addysg dros y 18 mis diwethaf ac maent yn rhagweld rhywfaint o aflonyddwch parhaus wrth i ni ddechrau ar y flwyddyn academaidd newydd.
Rhoddwyd gwybod i ysgolion a cholegau am y newidiadau hyn cyn diwedd tymor yr haf ac mae'r manylion hyn ar gael ar wefan CBAC.
Ond – ac yn y cyfnod ansicr hwn mae'n rhaid cael 'ond' bob amser – gellid tarfu ar ein cynlluniau ar gyfer arholiadau os bydd y pandemig yn achosi aflonyddwch mawr pellach, megis cyfnodau clo hir sy'n arwain at gau ysgolion a cholegau yn estynedig.
Os bydd amgylchiadau'n newid, bydd gennym gynlluniau wrth gefn ar waith. Byddwn yn dweud mwy am hyn yn fuan. Ond, fel pawb arall, rydym yn gobeithio na fydd eu hangen.
Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru