Sgiliau Hanfodol Cymru: Sut rydyn ni’n ychwanegu gwerth at gymwysterau rhifedd hanfodol
Y Rheolwr Cymwysterau, Andrew Shipway, sy’n amlinellu ein cynigion ar gyfer diwygio cymhwyster cymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru.
Mae rhifedd yn sgìl bywyd hanfodol. Boed yn cyfrifo costau, dehongli graffiau a siartiau, neu wneud penderfyniadau gwybodus, mae sgiliau rhif cryf yn helpu dysgwyr i lywio heriau bob dydd yn eu gwaith, bywyd, addysg a thu hwnt. Fel rhan o'n diwygiadau ehangach i Sgiliau Hanfodol Cymru, rydyn ni’n cynnig newidiadau i’r cymwysterau cymhwyso rhif er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol, yn afaelgar ac yn hydrin i ddysgwyr a chanolfannau.
Mae'r cynigion hyn yn rhan o'n hymgynghoriad cyhoeddus ar y gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol newydd Cymru, sydd ar agor tan 5 Chwefror 2026. Isod, rydyn ni’n crynhoi'r newidiadau allweddol rydyn ni’n eu cynnig a pham eu bod nhw’n bwysig.
Cynnwys perthnasol wedi ei ddiweddaru
Mae ein cynigion yn diweddaru ac yn egluro'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr mewn:
- rhif
- geometreg a mesurau
- ystadegau
Mae'r disgwyliadau diwygiedig wedi golygu:
- cynnwys ychwanegol sy'n ymwneud â llythrennedd ariannol
- dileu cynnwys mewn perthynas â chynllunio
- caniatáu mynediad at gyfrifiannell ar gyfer y rhan fwyaf o gwestiynau
- cymhwyso rhifedd i gyd-destunau bywyd go iawn
Rydyn ni eisiau i'r cymwysterau hyn gefnogi'r sgiliau rhifedd sydd bwysicaf i ddysgwyr – y rhai sy'n eu helpu nhw i ddysgu, gweithio a chymryd rhan lawn mewn bywyd bob dydd.
Strwythur cliriach, mwy cydlynol ar draws lefelau
Amlygodd ein hadolygiad diweddar y gall y cymwysterau cymhwyso rhif presennol weithiau ddyblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws lefelau, gan wneud cynnydd yn llai amlwg nag y gallai fod.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n bwriadu:
- cryfhau'r llwybr cynnydd, gan sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn modd clir a rhesymegol o lefel mynediad i lefel 2
- gwella sut mae sgiliau’n cael eu trefnu o fewn y cymhwyster, gan grwpio cymwyseddau rhifedd cysylltiedig fel y gall canolfannau a dysgwyr weld yn hawdd sut mae sgiliau yn datblygu wrth i lefelau gynyddu
Model asesu mwy hydrin
Un o'r negeseuon mwyaf cyson gan ddarparwyr oedd y gall asesiadau cyfredol, yn enwedig tasgau dan reolaeth ar lefelau 1 a 2, fod yn hir ac yn anodd eu cyflawni o fewn cyfyngiadau amser.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n cynnig dau asesiad symlach ar lefelau 1 a 2:
- Bydd Asesiad 1 yn brawf sydd ar gael i'w wneud ar y sgrin neu ar bapur, gyda chymysgedd o gwestiynau cyfrifiannell a chwestiynau digyfrifiannell. Bydd y fersiwn ar y sgrin yn cael ei farcio'n awtomatig.
- Bydd Asesiad 2 yn brawf arall sydd wedi ei osod yn allanol, wedi ei ddylunio i alluogi dysgwyr i ddangos eu sgiliau sy'n gysylltiedig â chyfrifiadau aml-gam, neu'r sgiliau mathemategol nad ydyn nhw’n addas ar gyfer eu profi ar y sgrin gyda marcio awtomatig. Bydd dysgwyr yn cael defnyddio cyfrifiannell. Bydd yr asesiad hwn hefyd yn cael ei farcio'n allanol.
Mae'r dull hwn yn lleihau'r baich asesu ar ganolfannau ac yn gwella cysondeb trwy farcio allanol. Mae hefyd yn byrhau'r amser asesu cyffredinol i ddysgwyr, gan gefnogi hydrinedd heb danseilio dibynadwyedd.
Dull gwahanol ar gyfer lefel mynediad
Ar lefel mynediad, rydyn ni’n credu nad oes angen prawf. Yn hytrach, rydyn ni’n cynnig y gellir asesu dysgwyr trwy drefniadau amgen. Mae hyn yn adlewyrchu pwrpas gwahanol cymwysterau lefel mynediad ac yn caniatáu i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn ffyrdd mwy hyblyg.
Teitl newydd y cymhwyster
Rydyn ni hefyd yn cynnig ailenwi'r cymhwyster yn Sgiliau Rhifedd Hanfodol, gan fod y teitl hwn yn adlewyrchu pwrpas craidd y cymhwyster yn well ac yn helpu i wahaniaethu'n glir rhwng y cymwysterau newydd a'r cymwysterau cymhwyso rhif presennol.
Cynnig i ddileu lefel 3
Mae ein hadolygiad yn dangos bod diddordeb mewn Lefel 3 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol yn isel. Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cymryd lefel 3 i uwchsgilio ar gyfer cyflwyno lefel 2, herio eu hunain, neu fodloni gofynion prentisiaeth penodol. Rydyn ni’n credu bod cymwysterau eraill yn gallu cefnogi uwchsgilio yn well a rhoi her i ddysgwyr.
Gyda diweddariadau ar y gweill i fframweithiau prentisiaethau, ni fyddai Lefel 3 Sgiliau Hanfodol Cymru bellach yn ofynnol ar fframweithiau prentisiaethau os nad yw ar gael. Byddai'r newid hwn yn cysoni fframweithiau Cymru â fframweithiau Lloegr, sydd angen lefel 2 yn unig. Er mwyn atal rhwystrau ychwanegol i ddysgwyr yng Nghymru, rydyn ni’n cynnig peidio â pharhau â Lefel 3 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol unwaith y bydd cymwysterau newydd yn disodli'r opsiynau etifeddol presennol.
Dweud Eich Dweud
Mae eich adborth yn hanfodol wrth siapio dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 5 Chwefror 2026, ac rydyn ni’n annog dysgwyr, tiwtoriaid, cyflogwyr a darparwyr i rannu eu barn. Gallwch chi ddarllen y cynigion llawn ac ymateb trwy ein gwefan Dweud Eich Dweud.