Siarad iaith cenedl ddwyieithog
Gofynnwch i unrhyw grŵp o bobl, mewn unrhyw gwr o'r wlad, drafod beth sy'n gwneud ein cenedl fach ni’n unigryw a bydd ein hiaith – y Gymraeg – bob amser yn cyrraedd y rhestr.
Mae’r Gymraeg wedi cael ei siarad yma (ac mewn mannau eraill ym Mhrydain) ers rhyw 1,500 o flynyddoedd, ond erbyn dechrau'r ganrif ddiwethaf roedd hi wedi peidio â bod yn iaith fwyafrifol ym mhob rhan o'r wlad. Ers diwedd y 1960au, mae gwahanol fentrau'r llywodraeth wedi cefnogi'r gwaith o hyrwyddo a datblygu’r iaith, gan gynnwys o'r cyfnod cyn addysg gynradd hyd at addysg oedolion a dysgu yn y gweithle.
Mae Cymru'n ymdrechu i fod yn genedl gwbl ddwyieithog. Er y gallai hyn ddenu cwestiynau gan rai sylwebwyr yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill, mae'n uchelgais serch hynny a gefnogir gan fwyafrif helaeth ein dinasyddion. Ategir y weledigaeth hon gan strategaeth Cymraeg 2050 y llywodraeth, sy'n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Targed uchelgeisiol yn ôl rhai efallai. Felly sut mae cyrraedd y nod?
Os ystyriwn ni sut mae person ifanc yn cael ei gyflwyno i’r iaith am y tro cyntaf, efallai y caiff ei siarad gartref, yn y gymuned neu ymhlith ffrindiau, ond bydd yr iaith bob amser yn cael ei chynnig fel pwnc yn yr ysgol.
Fel rheoleiddiwr, mae angen i ni sicrhau bod y cymwysterau mae ein dysgwyr yn eu sefyll yn eu galluogi nhw i fod yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac i fwynhau’r profiad hwnnw. Mae angen i ni hefyd ystyried tegwch a chydraddoldeb; rydyn ni’n gwybod bod lefel cysylltiad ein pobl ifanc â'r iaith yn amrywio.
Rhaid i'r cymwysterau hyn hefyd gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n ceisio rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr lwyddo drwy addysg eang a chytbwys.
Dim ond un iaith Gymraeg sydd, a dyna pam rydyn ni’n gweithio i un continwwm ar gyfer addysgu a dysgu’r iaith. Mae hyn yn helpu dysgwyr i weld ble maen nhw o ran eu dysgu a sut i symud ymlaen. Mae'n cynnwys pob dysgwr, o'r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad o'r Gymraeg, hyd at y rhai sy'n rhugl ac yn defnyddio'r iaith bob dydd.
Ni fyddai cyflwyno un cymhwyster Cymraeg yn unig yn caniatáu i bob un o'n dysgwyr ledled Cymru gyflawni'n gyfartal yn y Gymraeg.
O ystyried yr uchod i gyd, rydyn ni wedi penderfynu y bydd triawd o gymwysterau Cymraeg ar gael i'w haddysgu gyntaf o 2025.
Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal gweminar lle trafodon ni’r tri chymhwyster a chymryd cwestiynau gan amrywiaeth o gyfranogwyr. Rydw i wedi ceisio crynhoi'r hyn a drafodwyd yn ôl themâu allweddol, isod.
Mae cyfuno iaith a llenyddiaeth yn caniatáu i fwy o ddysgwyr astudio llenyddiaeth
Rydyn ni’n hyderus bydd mwy o ddysgwyr yn cael cyfle i astudio llenyddiaeth fel rhan o gymhwyster TGAU cyfun. Ar hyn o bryd, nid yw pob dysgwr sy'n astudio TGAU Cymraeg Iaith hefyd yn sefyll TGAU Llenyddiaeth Gymraeg (ffynhonnell: Cronfa Ddata Arholiadau Cymraeg), sy'n golygu nad yw rhai dysgwyr yn astudio llenyddiaeth ar ôl iddyn nhw droi’n 14 oed. Bydd dod â llenyddiaeth ac iaith ynghyd mewn un cymhwyster TGAU yn golygu bod pob dysgwr yn parhau i ddarganfod ac i fwynhau llenyddiaeth nes eu bod yn 16 oed.
Mae manteision eraill i gyfuno iaith a llenyddiaeth hefyd. Mae asesu iaith a llenyddiaeth gyda’i gilydd yn adeiladu sgiliau ieithyddol dysgwyr ac yn eu helpu nhw i ddeall bod llenyddiaeth wedi cael ei chreu o iaith, gan archwilio sut mae iaith yn gweithio.
Mae dull cyfunol yn cefnogi nodau’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n annog dysgwyr i wneud cysylltiadau o fewn ac ar draws chwe maes dysgu a phrofiad eang; mae Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn pwysleisio rhyng-gysylltedd iaith a llenyddiaeth.
Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn poeni byddai disodli dau gymhwyster gydag un cymhwyster yn gallu arwain at lai o amser addysgu mewn ysgolion. Rydyn ni’n disgwyl bydd y cymhwyster newydd tua'r un maint ag un TGAU a hanner. Wrth i ni weithio gydag eraill i gynllunio'r TGAU newydd, byddwn ni’n ystyried pa ganllawiau i'w cynnig i ysgolion ar amserlennu a chyflwyno.
Meithrin hyder dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Byddwn ni’n creu cymhwyster TGAU newydd i ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn adeiladu ar newidiadau mawr a wnaethom yn 2017 pan grëwyd un TGAU newydd gennym i gymryd lle'r cyrsiau llawn a byr blaenorol mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Gymhwysol. Mae'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd hwn wedi cael ei groesawu'n gyffredinol o fewn y gymuned addysgu. Mae ganddo asesiadau mwy cadarn ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando dysgwyr.
Ein bwriad bob amser oedd adolygu’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd unwaith i’r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gytuno.
Mae ’na rai sy'n dweud mai dim ond TGAU Cymraeg Ail Iaith gyda theitl newydd yw'r cymhwyster newydd. Nid yw hyn yn wir. Bydd gwreiddiau'r cymhwyster TGAU newydd yn gadarn yn y Cwricwlwm i Gymru.
Ond rydyn ni hefyd am sicrhau bod y cymhwyster TGAU newydd yn adeiladu ar gryfderau'r cymhwyster diwygiedig presennol. Un o nodau allweddol y cymhwyster TGAU newydd yw helpu dysgwyr i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r ysgol, felly byddwn ni’n gweld ffocws parhaus ar sgiliau siarad a gwrando. Bydd y cymhwyster TGAU newydd yn dal i gynnwys llenyddiaeth i helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau a'u gwerthfawrogiad o dreftadaeth a diwylliant Cymru.
Cynnydd pellach
Bydd dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd am ddatblygu eu Cymraeg ymhellach yn gallu dilyn cymhwyster ychwanegol, yn ogystal â'r cymhwyster TGAU newydd.
Gallai'r cymhwyster helpu athrawon i wahaniaethu yn yr ystafell ddosbarth a chefnogi'r dysgwyr hynny sy'n barod i gael eu hymestyn a'u herio.
Bydd hyn yn gadael i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau siarad a magu hyder gan gymhwyso patrymau iaith mewn cyd-destunau newydd ac ehangu eu geirfa. Mae’r cymhwyster ychwanegol yn debygol o gael ei addysgu yn yr un amser gwers â’r TGAU newydd, felly ni fydd angen i ysgolion ystyried cyflogi athrawon ychwanegol neu osod mwy o amser yn yr amserlen.
Er nad ydyn ni wedi pennu maint y cymhwyster newydd ar hyn o bryd, rydyn ni’n rhagweld y bydd yn llai na chymhwyster TGAU. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei adolygu wrth i ni weithio gydag athrawon ac eraill i edrych ar sut y gellid cynllunio ei gynnwys a'i asesiad.
Mae amser o hyd i ymuno â'r sgwrs
Rydyn ni wedi clywed llawer o bwyntiau, awgrymiadau a chwestiynau gwerthfawr gan gyfranogwyr yn ein gweminar ac o adborth i'n cyhoeddiad. Ac er bod ein gweithgorau ar gyfer Cymraeg yn llawn, nid yw'n rhy hwyr i fod yn rhan o'r sgwrs ehangach. Cysylltwch drwy anfon e-bost at: diwygio@cymwysteraucymru.org
Gan Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau