NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

11.04.25

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU
DYSGWYR

Siarter Newid ar gyfer cyflwyno cymwysterau TGAU newydd yng Nghymru

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd pobl ifanc yng Nghymru yn dewis o blith amrywiaeth o Gymwysterau Cenedlaethol newydd cyffrous wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer Blwyddyn 10. Mae'r ystod gynhwysfawr a chynhwysol hon o gymwysterau yn cynnwys TGAU, TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. Mae'r erthygl hon yn amlinellu ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi gweithrediad y cymwysterau TGAU newydd.

Mae'r Siarter Newid hon yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, CBAC, ac Adnodd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cymwysterau TGAU newydd yn llwyddiannus yng Nghymru. Gyda'n gilydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses o bontio yn un effeithiol a didrafferth i ysgolion wrth iddynt baratoi i ddarparu'r cymwysterau TGAU newydd o fis Medi 2025 a 2026.

Ymrwymiad i Bartneriaeth

Bydd ein pedwar sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth agos â'i gilydd a gyda rhanddeiliaid allweddol eraill ar draws y sector addysg yng Nghymru. Mae'r cydweithrediad hwn yn hanfodol i sicrhau bod gan arweinwyr ysgolion hyder wrth ddewis ac amserlennu'r cymwysterau newydd a bod athrawon yn barod i'w cyflwyno i'w myfyrwyr.

Gwaith a chyfrifoldebau

Cymwysterau Cymru

Fel y corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am effeithiolrwydd y system gymwysterau, mae Cymwysterau Cymru yn cydlynu gweithgareddau perthnasol y pedwar sefydliad.

Rôl Cymwysterau Cymru yw sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru a hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Mae Cymwysterau Cymru wedi datblygu gofynion ar gyfer y cymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru newydd, sy'n cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.  Mae Cymwysterau Cymru yn cymeradwyo'r cymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru newydd yn erbyn y gofynion hyn. Yn ystod y cyfnod o newid, mae ffocws arbennig ar ddeall a lliniaru unrhyw effeithiau ar ba mor hwylus ydyn nhw i ysgolion. 

Bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi gwybodaeth glir a chyson i'r holl randdeiliaid ynglŷn â'r amrywiaeth o gymwysterau TGAU newydd, y rhesymeg y tu ôl i'r newidiadau, a'r manteision disgwyliedig i ddysgwyr.

CBAC

CBAC sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyflenwi'r cymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig. Rôl CBAC yw sicrhau bod y cymwysterau'n bodloni'r gofynion pwnc-benodol a'r meini prawf cymeradwyo fel y'u gosodwyd gan Cymwysterau Cymru. 

Drwy gydol y broses, bydd CBAC yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys athrawon, arweinwyr ysgolion a cholegau, undebau ac arbenigwyr sector, i gyd-lunio cymwysterau sy'n diwallu anghenion dysgwyr ac yn cefnogi uchelgeisiau a disgwyliadau'r Cwricwlwm i Gymru.  

Bydd CBAC yn datblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth i sicrhau bod athrawon yn teimlo'n hyderus i gyflwyno'r cymwysterau newydd. Bydd hyn yn cynnwys deunyddiau asesu enghreifftiol a chanllawiau ar gyfer addysgu ar gyfer pob pwnc.

Bydd CBAC hefyd yn cynnig pecyn cenedlaethol o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd CBAC yn datblygu cyfres bwrpasol o fwy na 130 o becynnau adnoddau digidol rhad ac am ddim, a fydd yn cynnwys trefnwyr gwybodaeth ac adnoddau dysgu cyfunol y gellir eu haddasu a’u teilwra i ddiwallu anghenion ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. 

Bydd CBAC ar gael i roi cymorth ac arweiniad i athrawon bob cam o'r ffordd. 

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi addysg ac yn goruchwylio’r gwaith o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, gan roi trosolwg strategol o'r berthynas rhwng cymwysterau a’r Cwricwlwm i Gymru. Er mwyn cefnogi ysgolion i gynllunio a gweithredu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, tra byddan nhw hefyd yn paratoi ar gyfer cymwysterau newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i CBAC ac Adnodd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu dysgu proffesiynol ac adnoddau ar gyfer cymwysterau TGAU newydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod ysgolion yn cael digon o gymorth i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn effeithiol, gan gynnwys y cymwysterau newydd. 

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu dull strategol a chynaliadwy o ymgorffori gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir i ategu’r gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau. 

Er mwyn cefnogi'r cynnydd mewn asesu digidol yn y cymwysterau TGAU newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol (gan gynnwys Cymwysterau Cymru a CBAC) i gefnogi awdurdodau lleol i sicrhau bod gan ysgolion seilwaith a gwasanaethau digidol digonol ar waith ar gyfer cynnal asesiadau digidol - a pan fo'n briodol cefnogi atebion cenedlaethol, drwy Hwb, i helpu i ddarparu asesiadau digidol. 

Adnodd

Adnodd yw'r corff newydd sy'n gyfrifol am gydlynu a chomisiynu adnoddau addysgol dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Bydd Adnodd yn targedu ei weithgaredd comisiynu i wneud yn siŵr bod yr adnoddau sydd eu hangen ar athrawon a dysgwyr i fynd i'r afael â'r cymwysterau newydd hyn yn llwyddiannus yn eu lle - yn Gymraeg ac yn Saesneg - cyn i gyrsiau newydd ddechrau.

Wrth i'r cymwysterau newydd gael eu cyflwyno, bydd Adnodd yn gwrando ar athrawon a dysgwyr yn ei waith. Wrth wneud hynny, bydd yn asesu'n barhaus yr angen am adnoddau ychwanegol a allai wella profiadau dysgwyr o'r TGAU newydd hyn a'r Cwricwlwm i Gymru ymhellach. 

Ymrwymiad i ysgolion ac athrawon

Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion ac athrawon trwy'r newid sylweddol hwn. Rydyn ni’n addo gweithio ar y cyd i roi'r arweiniad, yr adnoddau a'r cyfleoedd datblygu proffesiynol angenrheidiol i sicrhau bod y cymwysterau TGAU newydd yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus. Ein nod cyffredin yw meithrin amgylchedd lle mae arweinwyr ac addysgwyr ysgolion yn teimlo'n hyderus ac yn barod i ddarparu addysg o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion pob dysgwr.

I gloi, mae'r Siarter Newid hon yn cynrychioli ein hymrwymiad ar y cyd i ddyfodol addysg yng Nghymru. Rydyn ni’n hyderus, drwy ein hymdrechion ar y cyd, y byddwn yn pontio’n llwyddiannus i'r cymwysterau TGAU newydd, a fydd yn y pen draw o fudd i ddysgwyr ac yn gwella tirwedd addysgol Cymru.

Llofnodwyd,

Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru
Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC
Emyr George, Prif Weithredwr, Adnodd
Welsh Government