NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

12.10.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Sicrhau cydraddoldeb i ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol ar gyfer haf 2024 a thu hwnt

Mae Ofqual wedi cyhoeddi mesurau i sicrhau bod dysgwyr sy'n cymryd cymwysterau galwedigaethol yn cael eu canlyniadau ar amser yn 2024 a thu hwnt, yn dilyn y dull a gymerwyd y flwyddyn hon.

Bydd y mesurau hyn hefyd yn cael eu mabwysiadu gan gyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Mae hwn yn gam pwysig yn ein hymrwymiad i sicrhau bod dysgwyr sy'n cymryd cymwysterau galwedigaethol a thechnegol (VTQ) yn cael eu trin yn gyfartal â'r rhai sy'n sefyll Safon Uwch neu TGAU.

Datblygwyd y mesurau canlynol mewn ymateb i adborth gan ysgolion a cholegau, cyrff dyfarnu, swyddogion arholiadau ac arweinwyr addysg:

  • pwynt gwirio yn ystod y tymor i ysgolion a cholegau gadarnhau pa ddysgwyr sydd angen canlyniad ym mis Awst i symud ymlaen i addysg uwch neu bellach
  • bydd cyrff dyfarnu yn cyhoeddi canlyniadau ar ddiwrnodau canlyniadau Safon Uwch neu cyn hynny, fel y bo'n briodol
  • bydd canlyniadau'n cael eu darparu i ysgolion a cholegau ymlaen llaw, mewn digon o amser i swyddogion arholiadau eu gwirio a'u paratoi i'w rhyddhau yn derfynol i ddysgwyr
  • bydd cymwysterau Lefel 1/2 a Lefel 2 a ddefnyddir ar gyfer dilyniant yn cael eu cynnwys yn y pwynt gwirio yn ystod y tymor a threfniadau cyhoeddi canlyniadau i sicrhau bod dysgwyr sy'n sefyll cymwysterau ochr yn ochr â TGAU hefyd yn cael eu canlyniadau pan fydd eu hangen arnynt
  • bydd Hyb Gwybodaeth VTQ Ofqual yn dod â dyddiadau a therfynau amser allweddol ynghyd o ystod ehangach o gyrff dyfarnu, i gefnogi staff ysgolion a cholegau sy'n gweithio wrth weinyddu neu gyflwyno'r cymwysterau hyn
  • bydd Ofqual yn parhau i weithio gyda chyrff dyfarnu i annog cyfathrebiadau clir, amserol, manwl a chyson
  • bydd Ofqual yn cynnull Grŵp Canlyniadau VTQ, gan adeiladu ar waith llwyddiannus y tasglu a sefydlwyd yn 2023, i ddod â chynrychiolwyr y sector allweddol a chyrff dyfarnu ynghyd i sicrhau canlyniadau amserol i ddysgwyr

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Ofqual.