NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

28.06.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Sicrhau’r cynnig TGAU Gwneud-i-Gymru newydd – adroddiad penderfyniadau

Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi Amodau Cydnabod Arbennig ar gyfer cyrff dyfarnu perthnasol er mwyn sicrhau y bydd dysgwyr yng Nghymru yn gallu dewis o’r ystod lawn o gymwysterau TGAU newydd y bwriedir iddynt gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Yn hydref 2022, agorodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad ar ystod newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chyhoeddodd ei benderfyniadau ar ddyluniad yr ystod newydd o gymwysterau heddiw.  

Er mwyn bod yn hyderus y bydd dysgwyr, ysgolion a cholegau yn gallu dewis o’r ystod lawn o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ym mis Ionawr 2023 ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff dyfarnu sy’n dymuno cynnig y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn gynnig yr ystod lawn o bynciau TGAU, a sicrhau bod y cymwysterau hynny ar gael i ddysgwyr drwy gydol eu cyfnod cymeradwyo. 

Ar ôl ystyried yn ofalus, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu gosod a chyhoeddi amodau arbennig yn fras fel yr amlinellwyd yn yr ymgynghoriad.  

Pwrpas yr amodau arbennig newydd yw: 

  • sicrhau bod yr ystod lawn o bynciau TGAU Gwneud-i-Gymru ar gael i ddysgwyr  
  • gwneud yn siŵr bod cyrff dyfarnu’n sicrhau bod y cymwysterau hynny ar gael drwy gydol eu cyfnod cymeradwyo 

Dywedodd Osian Llywelyn, Pennaeth Polisi Rheoleiddio, "Rydym am fod yn hyderus bod dysgwyr, ysgolion a cholegau yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ac am sicrhau bod cynnig cymwysterau 14-16 y dyfodol yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn sefydlog." 

"Bydd y penderfyniadau rydyn ni wedi'u gwneud yn sicrhau nad oes bylchau yn y ddarpariaeth TGAU arfaethedig ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed. Bydd hefyd yn darparu sicrwydd a sylfaen fwy cadarn ar gyfer cynllunio a sicrhau'r dysgu a'r adnoddau proffesiynol cywir i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau newydd." 

I gael gwybod mwy, darllenwch yr adroddiad penderfyniadau llawn ar wefan Cymwysterau Cymru. 

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am benderfyniadau TGAU terfynol Cymwysterau Cymru, cofrestrwch ar gyfer gweminar TGAU Gwneud-i-Gymru a gynhelir ddydd Iau 29 Mehefin