Cyfranogiad athrawon yn y cylch asesu mewn awdurdodaethau rhyngwladol
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil sy'n disgrifio sut mae athrawon yn ymwneud â systemau asesu mewn gwahanol gyd-destunau ledled y byd.
Comisiynodd y rheoleiddiwr adroddiad gan AlphaPlus i ddarparu safbwyntiau gwahanol ar systemau asesu cenedlaethol i ni eu hystyried wrth i ni ailystyried cymwysterau TGAU mewn ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am systemau asesu mewn 12 awdurdodaeth, gyda phedwar ohonynt - Estonia, Ontario yng Nghanada, Queensland yn Awstralia a Seland Newydd - wedi'u dewis ar gyfer ymchwiliad mwy manwl.
Mae gan y pedair awdurdodaeth hyn i gyd enw da am gynnwys athrawon yn sylweddol yn y system asesu ac mae ganddynt agweddau eraill sydd o ddiddordeb i ni yng Nghymru, gan gynnwys profiad o ddiwygio diweddar neu gyfredol.
"Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg defnyddiol o nifer o systemau asesu rhyngwladol sy'n gweithredu'n wahanol iawn i gymwysterau TGAU yng Nghymru ac, yn wir, i'w gilydd," meddai'r Prif Weithredwr Philip Blaker.
Gwyddom ei bod yn bwysig i ni feddwl am rôl athrawon wrth asesu cymwysterau wrth i ni ddatblygu gofynion ar gyfer cymwysterau TGAU newydd, gan ystyried effaith ar rôl athrawon.
Er mwyn parhau'n ddilys ac yn addas i'r diben, mae'n amlwg bod yn rhaid i systemau asesu cymwysterau adlewyrchu'r gymdeithas y maent yn gweithredu ynddi. Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi y gall newidiadau i gymwysterau gymryd llawer o amser a bod yn ddadleuol, gan gynnwys pan fydd newidiadau'n effeithio ar rôl y proffesiwn addysgu."
Meddai Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau:
"Mae'r adroddiad hwn yn ein helpu i feddwl am gynllunio systemau cymwysterau a sut mae'n ymwneud ag ystyriaethau ehangach yn y sector addysg a chymdeithas.
Yn ogystal â disgrifio sut y caiff systemau asesu eraill eu cynllunio, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith y dylai llunwyr polisi osgoi 'copïo a gludo' o awdurdodaethau eraill. Er y gallwn yn sicr gymryd ysbrydoliaeth o’r gwaith o gynllunio asesiadau mewn gwledydd eraill, mae angen inni werthuso'n ofalus pa newidiadau fyddai'n gweithio yma yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.
Mae'n ymddangos yn glir bod y rhan fwyaf o systemau asesu rhyngwladol – gan gynnwys y cymwysterau TGAU presennol – yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesu. Rydym am ystyried sut i daro'r cydbwysedd cywir wrth inni ailystyried cymwysterau TGAU. Rydym hefyd am ystyried sut i sicrhau'r cydbwysedd cywir gyda gwahanol fathau o asesu wrth asesu pobl ifanc 15 ac 16 oed".