Tegwch mewn blwyddyn o bontio
Yn gynharach eleni, fe wnes i gwestiynu’r mater o degwch ac edrych ar y rhesymeg dros ddychwelyd at drefniadau asesu mwy arferol ar gyfer 2022. Bryd hynny, roedd rhai cwestiynau o hyd ynghylch a fyddai hi'n bosibl i arholiadau fynd yn eu blaenau – roedd yr amrywiolyn Omicron yn rhemp ac yn cael effaith sylweddol ar addysg.
Rydw i’n falch o ddweud bod arholiadau'r haf bellach wedi digwydd ac ar wahân i ychydig o rwystrau ar hyd yn ffordd, sydd, yn anffodus, yn anochel mewn system mor gymhleth ag arholiadau cyhoeddus, mae pethau wedi mynd yn eithaf da.
Sut mae’r darlun yn edrych nawr?
Rydw i wedi siarad â nifer o arweinwyr ysgolion a cholegau dros yr wythnosau diwethaf ac mae'r adborth wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol. Maen nhw wedi gwerthfawrogi dychwelyd i drefniadau mwy arferol, yn enwedig y ffaith fod safon gyson a gwrthrychol yn cael ei defnyddio unwaith eto i bob dysgwr. Maen nhw hefyd wedi croesawu'r amser i ganolbwyntio ar eu diben craidd o addysgu a dysgu yn hytrach na thynnu eu sylw at benderfynu ar raddau a bennir gan ganolfan.
Mae arweinwyr ysgolion a cholegau hefyd yn cadarnhau bod dysgwyr wedi bod yn ddiolchgar am ddychwelyd at drefniadau mwy arferol. Rydyn ni’n gwybod bod pryderon wedi cynyddu eleni, yn fwy na'r un flwyddyn arall mae'n debyg, am amrywiaeth o resymau:
- nid yw dysgwyr ôl-16 wedi sefyll arholiadau cyhoeddus o'r blaen felly byddan nhw’n fwy pryderus nag arfer
- bydd pob dysgwr (ac yn wir, pob athro) yn bryderus ynghylch effaith y tarfu sydd wedi bod ar addysg ar eu graddau terfynol.
Fel y dywedais yn ôl ym mis Chwefror, mewn sefyllfaoedd fel hyn rhaid i chi ystyried y dewisiadau amgen hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod dysgwyr yn bryderus, ond mae set wahanol o bryderon yn codi gyda graddau a bennir gan ganolfan – sef y dull a ddefnyddiwyd llynedd. Mae dysgwyr yn poeni efallai na fyddan nhw’n cael eu trin yn yr un modd â'u cyfoedion, gan gyflwyno materion sy'n ymwneud â thegwch ar draws dysgwyr a chanolfannau (tegwch perthynol). Mae eraill wedi nodi'r pryder nad ydyn nhw wedi cael eu hasesu mewn ffordd arferol: wedi'i gyfleu i mi gan un pennaeth ysgol fel 'syndrom twyllwr' (‘imposter syndrome’).
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddweud da iawn i ddysgwyr sydd wedi gwneud eu gorau i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod mewn amgylchiadau anodd, i athrawon a darlithwyr sydd wedi gwneud eu gorau i baratoi dysgwyr ar gyfer eu hasesiadau ac i bawb yn y system addysg a chymwysterau ehangach sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn ddiwyd i'w cefnogi nhw. Nid oedd adfer trefniadau arferol byth yn mynd i fod yn hawdd, a dyna pam mae hon yn flwyddyn bontio i raddau helaeth.
Blwyddyn o bontio – addasiadau a gosod ffiniau graddau
Fel rhan o'r newid hwnnw i drefniadau rheolaidd, cafodd addasiadau eu gwneud i leddfu'r baich asesu ac rydyn ni wedi cyhoeddi dull pontio i ymdrin â safonau.
Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar yr addasiadau. Yng Nghymru, ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau, rhoddwyd newidiadau ar waith yn ystod haf 2021 i leihau'r gofynion asesu yn ystod y flwyddyn academaidd yma. Roedd hyn yn caniatáu i ysgolion a cholegau ganolbwyntio eu hamser ar feysydd a oedd bwysicaf i'r pwnc. Nid oedd hyn wedi'i fwriadu i gyfyngu'n ormodol ar addysgu, gan fod angen llawer o'r dysgu ar gyfer cynnydd yn y pwnc, ond roedd yn ffordd o leihau rhywfaint o'r pwysau.
Byddwn ni’n gwneud gwaith i edrych ar ba mor effeithiol oedd y dull hwn yn ddiweddarach eleni. Yn gyffredinol, mae adborth negyddol wedi'i gyfyngu i bryderon ynghylch a ddylid bod wedi gofyn nifer fach o gwestiynau penodol mewn rhai pynciau o ystyried yr addasiadau a nodwyd. Mae dysgwyr, rhieni ac addysgwyr wedi bod yn defnyddio ein holiadur arferol ar y gyfres arholiadau, 'Dweud eich Dweud', i nodi pryderon penodol, ac rydyn ni wedi bod ac yn parhau i fonitro byrddau arholi yn ofalus i weld eu hymatebion i unrhyw faterion sy'n codi.
Yr ail brif faes gwahaniaeth yn y flwyddyn bontio hon yw'r dull o ddyfarnu – pennu ffiniau graddau gan fyrddau arholi i drosi marciau'n raddau.
Fe wnaethon ni ddweud yn gynharach eleni y bydden ni’n ei gwneud hi’n ofynnol i CBAC – sef corff dyfarnu Cymru – ddyfarnu graddau fel eu bod, yn fras, hanner ffordd rhwng 2019 a 2021; 2019 oedd y flwyddyn ddiwethaf i bob arholiad gael ei farcio gan arholwyr allanol, a 2021 oedd y flwyddyn pan ddarparodd ysgolion a cholegau unigol 'raddau a bennir gan ganolfan'. Mae hyn yn ein galluogi ni i bontio rhwng y ddau ddull gweithredu ac yn gam tuag at ddychwelyd i'r 'safon perfformiad sefydledig'.
O ran tegwch, efallai bydd rhai'n dweud nad yw hyn yn deg i ddysgwyr y gorffennol na'r dyfodol gan nad oes unrhyw gymariaeth uniongyrchol â blynyddoedd eraill. Mae hyn yn rhywbeth y gwnaethon ni ei ystyried wrth wneud y penderfyniad yma. Fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod bod dysgwyr wedi cael dwy flynedd ryfeddol wrth arwain at eu harholiadau.
Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw dull rhy lym o ystyried yr amgylchiadau a'r cyd-destun, ac rydyn ni’n dymuno gweld cynllun ar waith sy’n diogelu dysgwyr. Mae'r dull hwn o ddyfarnu graddau yn gyson â'r dull sy’n cael ei ddefnyddio yn Lloegr, felly bydd dysgwyr yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un ffordd â'u cyfoedion dros y ffin.
Ydy arholiadau'n anoddach eleni?
Mae'r dysgwyr hynny sydd wedi rhoi adborth i ni, a dim ond sampl hunan-ddethol bach yw hynny, wedi bod yn bryderus fod papurau eleni wedi bod yn anoddach nag arfer. Efallai fod llawer o resymau pam eu bod nhw’n credu hyn, ac mae'n werth cymryd eiliad i fyfyrio ar hyn.
Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni gofio bod hyn yn golygu dychwelyd at bapurau arholiad heb eu gweld o dan amodau arholiad – bydd hynny'n newydd i lawer o ddysgwyr eleni. Hefyd, ni fydd dysgwyr UG a Safon Uwch wedi meithrin y gwydnwch y mae dysgwyr yn ei gael pan fyddan nhw’n sefyll arholiadau TGAU. Nawr ’te, nid yw gwydnwch yn rhywbeth mae'r system gymwysterau'n bwriadu ei adeiladu, ond mae'n sgil-gynnyrch ac fe'i disgrifiwyd gan un pennaeth ysgol fel 'stamina arholiad' sy'n adeiladu gwydnwch a chymeriad.
Efallai hefyd fod dysgwyr yn cymharu â phapurau blaenorol cyn y cylch diwethaf o ddiwygiadau TGAU, UG a Safon Uwch, a gafodd eu hasesu am y tro cyntaf rhwng 2017 a 2019. Felly, ar gyfer rhai pynciau, dim ond un cyn-bapur sydd ar gael fel pwynt cyfeirio dilys.
Gall sbardun arall ar gyfer y pryder hwn ddeillio o'n sefyllfa ni o 'raddio hael' a gyhoeddwyd ymlaen llaw. Bydd y nod yma’n cael ei gyflawni drwy'r addasiadau a'r dull graddio, ond efallai bod rhai wedi dehongli'r nod hwn fel papurau cwestiynau haws. Nid oedd hyn byth yn wir, ond os oes camddealltwriaeth wedi bod yna gallai fod diffyg cyfatebiaeth â disgwyliadau.
Beth bynnag sy'n gyrru'r ymdeimlad hwn o anhawster, mae’r system yn cael ei defnyddio i nodi a yw papur arholiad yn fwy anodd yn systemig na phapur blaenorol. Mae byrddau arholi yn dylunio papurau arholiad i fod â lefel gyfartal o her fel bod modd eu cymharu dros amser, ond mae hon yn dasg anodd ac weithiau bydd papur arholiad yn fwy heriol na'r bwriad. Os felly, yna bydd ffiniau graddau’n cael eu defnyddio i reoli'r effaith ar raddau a darparu canlyniadau teg i ddysgwyr dros amser – bydd papur mwy anodd yn arwain at ffiniau gradd ychydig yn is. Os nad yw'r her yn hollol iawn mewn unrhyw bwnc eleni, yna caiff hyn ei adlewyrchu yn lefel gyffredinol yr anhawster fel y gwelir ym mherfformiad dysgwyr a bydd yr un mecanwaith yn dechrau.
Felly, beth sydd nesaf?
Nawr bod yr arholiadau eu hunain wedi dod i ben, i'r rhan fwyaf mae'r gwaith i gyrraedd graddau yn digwydd 'tu ôl i'r llenni'. Bydd byrddau arholi yn brysur yn cael sgriptiau wedi'u marcio gan arholwyr, sydd i gyd yn athrawon, yn athrawon sydd wedi bod yn dysgu’n ddiweddar neu’n athrawon sydd wedi ymddeol. Mae prosesau ar waith i hyfforddi marcwyr wrth ddefnyddio cynlluniau marcio ac i sicrhau ansawdd eu gwaith i wneud y marcio mor gyson â phosibl.
Unwaith bydd y marcio wedi'i gwblhau, y cam nesaf yw gosod ffiniau'r radd. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gasgliad o dystiolaeth gan gynnwys papurau arholiad wedi'u cwblhau ac ystadegau manwl ar sut mae dysgwyr a phapurau arholiad unigol wedi perfformio. Mae’n bwysig nodi bod y broses hefyd yn cynnwys dyfarniad uwch-arholwyr sy'n gwybod y safonau perfformiad disgwyliedig a'r cyd-destun ar gyfer dyfarniadau eleni. Fel rheoleiddiwr Cymru, ein rôl ni yw monitro'r broses hon drwyddi draw.
Y cam gweladwy nesaf i ddysgwyr fydd diwrnodau’r canlyniadau ym mis Awst ac rydw i'n siŵr bydd pobl wedyn yn penderfynu a yw'r system yn deg ai peidio. Rhaid i ni gofio nad yw tegwch yn tueddu i fod yn gysyniad y gellir ei fesur yn llwyr – rydyn ni’n aml yn meddwl am rywbeth sy'n decach na rhywbeth arall.
O ystyried yr opsiynau, y cyd-destun a'r gofynion sy’n cael eu gosod ar y system ar gyfer mesur cyrhaeddiad, rydw i'n hyderus ein bod ni eleni wedi dilyn y llwybr gorau posibl – byddai'r dewisiadau amgen wedi arwain at ormod o anghysondebau, gormod o waith i athrawon a darlithwyr, a gormod o faterion yn ymwneud â thegwch perthynol. Yn y pen draw, roedd gan y cyhoedd hyder yn y system a roddwyd ar waith llynedd gan nad oedd dewis arall a oedd yn ymarferol. Mae'r sefyllfa honno nawr wedi newid.
Rydw i’n gobeithio bydd pawb yn cael y graddau maen nhw eu hangen i symud ymlaen fel maen nhw’n bwriadu, ond peidiwch ag anobeithio os na fyddwch yn gwneud hynny. Mae llawer o opsiynau a dewisiadau y gallwch chi eu cymryd, felly byddwch yn agored eich meddwl a byddwch yn barod - bydd llawer mwy o wybodaeth am baratoi ar gyfer diwrnodau’r canlyniadau gennyn ni ac eraill ar draws y system addysg yn ystod yr wythnosau nesaf.
Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn y Times Educational Supplement/cylchgrawn TES