Teithiau dysgwyr newydd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol
Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid a dysgwyr i gynhyrchu mapiau cymwysterau galwedigaethol, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ystyried eu dewisiadau a'u cyfleoedd i symud ymlaen.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi un ar hugain o adnoddau taith y dysgwr newydd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar Lefel Mynediad i Lefel 3 a gyflwynir mewn ysgolion, colegau addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith.
Ar gael fel dogfennau un dudalen sy'n dangos yr holl opsiynau a llwybrau cymhwyso gwahanol sydd ar gael ym mhob sector, maen nhw wedi'u cynllunio i:
- gefnogi dysgwyr a'u rhieni wrth iddyn nhw ymchwilio i'w hopsiynau mewn maes galwedigaethol
- bod yn hygyrch ac yn afaelgar
- rhoi golwg syml o'r holl lwybrau ac opsiynau sydd ar gael
Datblygwyd yr adnoddau mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, yn dilyn cyfres o ymgysylltiadau ag ysgolion, colegau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgwyr.
Yng ngwanwyn 2025, fe wnaethom rannu ein dyluniadau cychwynnol a gwahodd adborth trwy ein platfform ar-lein Dweud Eich Dweud. Fe wnaethom hefyd rannu'r dyluniadau cychwynnol gyda'n Grŵp Cynghori i Ddysgwyr lle cawsom adborth cadarnhaol, yn ogystal â rhai awgrymiadau a ymgorfforwyd yn y dyluniadau terfynol.
Dywedodd Lisa Mitchell, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Roeddem eisiau cynhyrchu adnoddau defnyddiol i ddysgwyr sy'n dangos yr holl opsiynau a’r llwybrau gwahanol sydd ar gael ym mhob sector. Dyna pam rydym wedi cymryd yr amser i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, yn ogystal â dysgwyr, i wneud yn siŵr ein bod yn creu adnoddau sy'n ddefnyddiol iddyn nhw.
"Er y gall pob taith dysgwr edrych ychydig yn wahanol, gan adlewyrchu'r dirwedd cymwysterau gwahanol, mae ganddynt nodweddion cyffredin ar gyfer cysondeb.
"Y syniad yw y gall dysgwr ddefnyddio'r teithiau dysgwyr hyn wrth iddyn nhw ystyried eu dewisiadau o ran cymwysterau galwedigaethol pan fyddan nhw’n penderfynu pa lwybr maen nhw am ei gymryd. Dylen nhw hefyd fod yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr sy'n cefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu llwybrau cynnydd."
Mae'r holl adnoddau taith y dysgwr ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru