BLOG

Cyhoeddwyd:

05.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

TGAU Dawns yn helpu dysgwyr i gamu i'r llwyfan

Y Rheolwr Cymwysterau, Sarah Watson, sy’n cyflwyno'r cymhwyster TGAU Dawns newydd, gan dynnu sylw at sut mae'n cefnogi creadigrwydd a mynegiant i ddysgwyr ledled Cymru.

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau
Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau



Mae dawns yn gymaint mwy na symud; mae'n ffurf bwerus o gyfathrebu ac o fynegi’ch hun.

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd cymhwyster TGAU gwneud-i-Gymru newydd sbon yn rhoi dawns ar yr un lefel â phynciau eraill sefydledig ym maes dysgu a phrofiad y celfyddydau mynegiannol, megis cerddoriaeth, drama a chelf. Mae'r cymhwyster hwn, sydd wedi’i ddylunio’n benodol i fodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru, yn adlewyrchu'r diwylliant dawns amrywiol a deinamig sydd gennym yng Nghymru. Bydd yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio eu hunaniaeth, cydweithio ag eraill, ac ymwneud â'r byd mewn ffyrdd ystyrlon.

Trwy gofleidio amrywiaeth, creadigrwydd ac arloesedd digidol, mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi cyflwyno cwricwlwm dawns perthnasol, gafaelgar ac ysbrydoledig yng Nghymru.

Beth all athrawon a dysgwyr ddisgwyl ei weld yn y cymhwyster TGAU Dawns newydd? 


Opsiwn TGAU newydd i ddysgwyr creadigol 

Am y tro cyntaf, bydd TGAU Dawns ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan alluogi dysgwyr i archwilio a mynegi eu creadigrwydd. 

Fe wnaethom weithio'n agos gydag addysgwyr, dysgwyr a rhai sy’n gweithio ym maes dawns i lunio cymhwyster sy'n dathlu symudiad, creadigrwydd a gwerthfawrogiad beirniadol, ac sy'n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Y canlyniad yw ymagwedd newydd at addysg ddawns sy'n annog dysgwyr i archwilio pwy ydyn nhw, sut maen nhw'n symud, a sut maen nhw'n ymwneud â'r byd o'u cwmpas mewn ffordd ymgorfforedig.

Dathliad o greadigrwydd ac unigolrwydd

Mae'r TGAU newydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio ystod eang o arddulliau, genres a thechnegau dawns. P'un a ydynt wedi'u hysbrydoli gan goreograffi cyfoes, ffurfiau traddodiadol, neu ddylanwadau byd-eang, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i fynegi eu hunain trwy symud ac i ddatblygu eu llais coreograffig eu hunain.

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • deall prosesau coreograffig a sgiliau perfformio
  • creu a datblygu syniadau symud gyda rheolaeth dechnegol a soffistigedigrwydd
  • myfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill, a’i werthuso
Asesiadau arloesol

Mae’r asesiadau wedi'u dylunio gyda phwyslais cryf ar berfformiad ymarferol ac archwiliad creadigol. Mae dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu sgiliau ymarferol a'u meddwl creadigol, tra hefyd yn datblygu sgiliau dadansoddol a sgiliau gwerthuso.

  • Arholiad ysgrifenedig (30%): Wedi'i gyflwyno'n ddigidol, mae'r asesiad hwn yn targedu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o ddawns. Bydd gweithio ar y sgrin yn gwella dilysrwydd a bywiogrwydd yr asesiad, gyda dysgwyr yn ymateb yn uniongyrchol i recordiadau o berfformiadau, gan ddarparu profiad mwy gafaelgar. 
  • Perfformio (30%): Gan ganolbwyntio ar ddefnyddio sgiliau yn ymarferol, bydd dysgwyr yn perfformio darnau dawns sy'n adlewyrchu bwriad coreograffig, wedi'u hasesu gan athrawon a'u cymedroli gan y corff dyfarnu.
  • Coreograffi (40%): Bydd dysgwyr yn creu gweithiau dawns gwreiddiol, wedi'u hasesu gan athrawon a'u cymedroli'n allanol.

Cymorth i athrawon

Er mwyn helpu canolfannau i baratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster am y tro cyntaf, bydd CBAC yn darparu cyfres o adnoddau digidol dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster yn effeithiol gyda'r nod o helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth arwain dysgwyr drwy'r cymhwyster newydd cyffrous hwn - beth bynnag fo'u cefndir.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan CBAC.