Trafod cymwysterau UG a Safon Uwch newydd yn y Gymraeg a Cymraeg Craidd yn yr Eisteddfod
Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, cynhaliodd Cymwysterau Cymru ddigwyddiad yn trafod ymgynghoriad ar gymwysterau UG a Safon Uwch newydd yn y Gymraeg a Cymraeg Craidd.
Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd pobl i gyfrannu at siapio dyfodol cymwysterau UG a Safon Uwch yn y Gymraeg a Chymraeg Craidd.
Roedd y cyfranwyr y yr Eisteddfod yn cynnwys Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru, Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Emily Evans, llysgennhad Coleg Cymraeg Cenedlaethol, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Abertawe, Eurgain Hughes, Pennaeth Cymraeg, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Cymwysterau Cymru oedd yn cadeirio.
Yn stondin fywiog Cymwysterau Cymru, fe gafodd ymwelwyr glywed trafodaeth am y cynigion newydd sy’n ceisio adlewyrchu Cymru gyfoes – a’r Gymru y byddwn ni’n ei hadeiladu gyda’n gilydd.
Dywedodd Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – ac mae’n hanfodol bod y cymwysterau rydym yn eu cynnig yn adlewyrchu hynny.
“Rydym wedi gwrando ar athrawon, dysgwyr a phartneriaid – nawr rydym eisiau clywed eich barn chi.”
Gwybodaeth pellach
Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 12 Medi 2025 ar blatfform Dweud Eich Dweud. Mae Cymwysterau Cymru yn annog athrawon, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a phartneriaid addysgol i gymryd rhan.
Ymunwch â’r Sgwrs
Dyma gyfle i gyfrannu at ddyfodol addysg Gymraeg – ac i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn deall bod pawb yn brysur ac amser yn brin, felly nid oes pwysau arnoch i ymateb i bob cwestiwn. Atebwch y rhai sydd gennych ddiddordeb ynddynt. Rydym wirioneddol yn awyddus i glywed eich barn.