Trawsnewid cyfrifiadureg: egluro’r cymhwyster TGAU newydd
Nathan Evans, Rheolwr Cymwysterau, sy'n siarad am y cymhwyster TGAU newydd mewn cyfrifiadureg a'r hyn y mae'n ei olygu i athrawon a dysgwyr.
Cyfrifiadureg yw sylfaen ein byd digidol ac mae’n llywio sut rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn datrys problemau. Y tu hwnt i sgiliau technegol, mae'n meithrin creadigrwydd, meddwl yn feirniadol, a gwytnwch – gan roi’r gallu i ddysgwyr lywio tirwedd dechnolegol sy'n esblygu. Gall deall cyfrifiaduriaeth rymuso dysgwyr i arloesi, gwerthuso systemau digidol, a gwneud penderfyniadau gwybodus a moesegol.
Mae cyflwyno'r TGAU Cyfrifiadureg newydd yn gam allweddol wrth baratoi dysgwyr ar gyfer y dyfodol digidol, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth iddyn nhw ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Sut mae TGAU Cyfrifiadureg yn newid?
Bydd y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2025. Gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan y cymhwyster presennol, mae'r cymhwyster TGAU newydd wedi'i ddylunio i gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn y maes digidol.
Cydbwyso dysgu ac asesu
Mae newidiadau allweddol wedi’u gwneud i wella hygyrchedd asesu ac ymgysylltiad dysgwyr. Mae asesiad codio ar y sgrin Uned 2 yn defnyddio briffiau a gaiff eu rhyddhau ymlaen llaw, gan roi blwyddyn i ddysgwyr archwilio heriau codio perthnasol cyn sefyll yr asesiad. Mae'r dull hwn yn lleihau baich yr asesiad rhaglennu presennol wrth gefnogi cyfleoedd ar gyfer dysgu cydweithredol, datrys problemau a datblygu sgiliau yn yr ystafell ddosbarth, gan adlewyrchu sut mae codio'n cael ei wneud mewn diwydiant. Gall dysgwyr weithio gyda'i gilydd yn yr ystafell ddosbarth, defnyddio adnoddau ar-lein, a thrafod ag athrawon i fireinio eu sgiliau rhaglennu gan ddefnyddio'r briffiau hynny cyn sefyll yr asesiad rheoledig.
Er mwyn cefnogi hydrinedd ymhellach, mae'r cymhwyster bellach yn unedol. Gall dysgwyr sefyll yr asesiad Uned 1, sy'n canolbwyntio ar wybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol, ym Mlwyddyn 10, cyn defnyddio eu sgiliau codio yn yr asesiad rhaglennu ar ddiwedd Blwyddyn 11. Mae'r strwythur hwn yn lleihau’r llwyth asesu cyffredinol ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Asesiad ar y sgrin
Wrth i asesiadau digidol ddod yn fwy cyffredin mewn cymwysterau ac mewn ysgolion, mae rhesymeg glir dros asesu cyfrifiadureg yn gyfan gwbl yn ddigidol. Bydd y ddau asesiad ar y sgrin, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwneud â chynnwys mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu datblygu meddalwedd ac arferion cyfrifiadurol y byd go iawn, rhywbeth y mae rhanddeiliaid yn ei gefnogi'n gryf.
Cynnwys wedi'i ddiweddaru
Mae cynnwys y cymhwyster wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf yn y maes pwnc, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwneud â phynciau perthnasol ac ystyrlon. Mae'n rhoi cyfleoedd i archwilio cyfrifiadura mewn cyd-destunau yn y byd go iawn, gan gynnwys technolegau datblygol fel Deallusrwydd Artiffisial, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer tirwedd ddigidol sy'n esblygu. I gefnogi hyn, dewiswyd Python (sef un o'r ieithoedd rhaglennu yn y fanyleb gyfredol) fel yr iaith raglennu ragnodedig gan CBAC. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr i adeiladu sylfaen gref mewn egwyddorion rhaglennu craidd gan ddefnyddio cyfrwng safonol y diwydiant.
Cefnogi canolfannau drwy newid
Mae cydweithwyr yn Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i gefnogi cyflwyno a gweithredu asesiadau digidol yn llwyddiannus.
Mae CBAC eisoes wedi dechrau cyhoeddi adnoddau digidol dwyieithog ar gyfer cyfrifiadureg, ac mae digwyddiadau wyneb yn wyneb 'paratoi i addysgu' yn digwydd drwy gydol tymor y gwanwyn.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau yn y gofod hwn drwy ein tudalen moderneiddio asesu.