Trosolwg o ganlyniadau Mis Tachwedd 2022
Da iawn i'r holl ddysgwyr yng Nghymru a wnaeth sefyll arholiadau yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd 2022. Heddiw, fe wnaethon nhw dderbyn eu canlyniadau gan CBAC.
Ym mis Tachwedd 2022, fe wnaeth dysgwyr sefyll arholiadau TGAU Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg, TGAU Mathemateg-Rhifedd, a TGAU Cymraeg Iaith. Fe wnaethom ni gyhoeddi ystadegau swyddogol ar y cofrestriadau ar 1 Rhagfyr 2022. Gallwch chi gael gafael ar yr adroddiad llawn yma: Adroddiad ar Gofrestriadau TGAU mis Tachwedd 2022 ar gyfer Cymru.
Cafwyd 20,410 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2022, i fyny 55.7% o 13,105 ym mis Tachwedd 2021. Roedd cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer mis Tachwedd 2022 ychydig yn is na chofrestriadau 2018 a 2019 ond roedden nhw’n sylweddol uwch na 2020 a 2021. Mathemateg - Rhifedd oedd y pwnc gyda’r nifer mwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd, sef 51.4% o gyfanswm y cofrestriadau yn 2022 o’i gymharu â 44.4% yn 2021. Roedd y mwyafrif (91.4%) o gofrestriadau TGAU Tachwedd 2022 ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, cyfran debyg i 2021.
Fe wnaethom ni fonitro'n agos ddarpariaeth CBAC o'r gyfres hon, a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn y cyd-destun hwn. Rydyn ni’n hyderus bod egwyddorion cytûn a phrosesau addas wedi’u dilyn a bod y dyfarniadau mor deg â phosibl i ddysgwyr.
Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau ar gyfer cyfres Tachwedd 2022 yng Nghymru ar ei wefan heddiw.
Cyhoeddodd y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) drosolwg o ganlyniadau’r gyfres ar gyfer y DU ar ei wefan heddiw.