Wythnos ar ôl i ddweud eich dweud am arholiadau haf 2023
Bydd ein harolwg o gyfres arholiadau’r haf eleni yn agored am un wythnos arall – dyma gyfle i chi rannu eich adborth ac i fod yn rhan o’r broses.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bu dysgwyr ledled Cymru’n brysur yn sefyll arholiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Lefel 2 a Lefel 3, yn ogystal â chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch mewn amrywiaeth o bynciau. Rydyn ni’n awyddus i glywed barn dysgwyr, addysgwyr, rhieni, gofalwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yng nghyfres arholiadau’r haf eleni.
Rydyn ni’n cynnal arolwg tebyg bob blwyddyn er mwyn cael adborth ar arholiadau’r haf fel rhan o’n gwaith o fonitro arholiadau yng Nghymru. Mae’r adborth rydyn ni’n ei gael yn hynod bwysig i ni, gan ei fod yn caniatáu i ni adnabod unrhyw themâu allweddol a gododd yn ystod y gyfres arholiadau. Mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o’ch profiadau chi o’r papurau arholiad, dealltwriaeth y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio ein gwaith monitro yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg yn agored tan ddydd Gwener 7 Gorffennaf, felly dyw hi ddim yn rhy hwyr i chi rannu eich barn. Gallwch gynnig eich sylwadau ar unrhyw un o arholiadau cyfres yr haf. Mae’n cymryd tua phum munud i gwblhau’r arolwg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw.
Byddwch yn rhan o’r broses ac ewch ati i ddweud eich dweud: https://dweudeichdweud.cymwysterau.cymru/dweud-eich-dweud-ar-arholiadau-haf-2023%20