Newid i'r Gwasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi
O 1 Medi 2025, rydym yn bwriadu cau ein Gwasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi (EPRS) fel y mae ar hyn o bryd, a’i ymgorffori yn ein proses gwynion. Rydyn ni am wneud y newid yma er mwyn rhoi mwy o eglurder i ganolfannau ac i ddysgwyr, ac creu proses senglar gyfer bob cymhwyster pan fo dysgwr yn anfodlon ar sut y cafodd apêl corff dyfarnu ei thrin.
Mae'r EPRS yn un o’r gweithdrefnau y mae Cymwysterau Cymru yn ei defnyddio ar hyn o bryd i adolygu'r tri math o benderfyniadau a wneir gan gyrff dyfarnu:
- Marcio a Chymedroli
- Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaethau Arbennig
- Camymddwyn neu Gamweinyddu
Pwrpas yr EPRS yw adolygu a yw'r corff dyfarnu wedi cydymffurfio â'i bolisïau a'i weithdrefnau ei hun ac â’n gofynion rheoleiddio ni ai peidio.
Mae’r EPRS yn berthnasol i gymwysterau TGAU, UG, a Safon Uwch cymeradwy, i Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, ac i Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (Lefel 3).
Gyda phob cymhwyster arall, os yw dysgwr yn anfodlon â sut cynhaliodd corff dyfarnu ei apêl, byddan nhw’n cyflwyno cwyn i ni yn unol â'n Polisi Cwynion am Gyrff Dyfarnu.
Pam ydyn ni yn adolygu y (EPRS) nawr?
Gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru a datblygiad y Cymwysterau Cenedlaethol newydd i'w cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen, nid yw cwmpas presennol yr EPRS yn ddigonol. Rydyn ni wedi ystyried ehangu cwmpas i gynnwys mathau eraill o Gymwysterau Cenedlaethol, ond rydyn ni wedi dod i'r casgliad mai'r peth mwyaf effeithiol fyddai defnyddio’r un broses ar gyfer pob un cymhwyster rheoleiddedig.. Nid yw’r broses yn caniatáu newid y marc neu'r radd a ddyfarnwyd i unigol, mae’r ddau yn canolbwyntio a yw'r corff dyfarnu wedi cydymffurfio â'i bolisïau a'i weithdrefnau ei hun ac â'n gofynion rheoleiddio ni.
Trefniadau ar gyfer Cyfres Haf 2025
cwynion sy’n ymwneud â phenderfyniadau apêl cymwysterau perthnasol o Gyfres Haf 2025, byddwn yn parhau i ddefnyddio'r broses EPRS bresennol. Unrhyw cwynion a wnaed ar ôl hynny yn mynd trwy ein proses gwynion sengl.
Adborth
Hoffem wahodd rhanddeiliaid i roi adborth ar ein cynnig i ddod â’r EPRS i ben. Os hoffech chi rannu eich barn, anfonwch eich adborth i policy@qualifications.wales erbyn 7 Mai.