Y camau nesaf i ddysgwyr yn dilyn blwyddyn heriol arall mewn addysg
Gyda dim ond wythnos cyn i ganlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol gael eu cyhoeddi, mae David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yn ystyried y camau nesaf i ddysgwyr yn dilyn blwyddyn heriol arall ym myd addysg.
Does dim dwywaith fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i'r sector addysg yng Nghymru a thu hwnt. Roedd y sefyllfa ddigynsail roeddem yn rhan ohoni pan oedd y pandemig ar ei anterth - yn 2020 a'r haf diwethaf - yn anodd i ddysgwyr a oedd yn gweithio tuag at gymwysterau wrth iddyn nhw geisio cadw at reolau’r cyfnodau clo a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Roedd yn anodd i athrawon a chanolfannau, gyda llawer ohonynt yn ymgymryd â'r dasg ychwanegol o farcio asesiadau terfynol fel rhan o'r broses raddio a bennwyd gan ganolfannau, yn ogystal â gorfod addasu’n gyflym i addysgu ar-lein. Roedd hefyd yn anodd i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, a ymdrechodd mor galed i gefnogi a chysuro'r dysgwyr yn eu gofal.
Yr haf hwn, mae arholiadau ffurfiol ynghyd â mathau eraill o asesiadau ffurfiol wedi dychwelyd. Gan adleisio barn Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, rwy'n credu bod arholiadau'n ffordd deg o asesu dysgwyr, a bydd arholiadau’n parhau i chwarae rôl bwysig ynghyd â mathau eraill o asesu, ond rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r her unigryw sy’n wynebu dysgwyr, gyda llawer ohonynt wedi sefyll arholiadau ffurfiol allanol am y tro cyntaf eleni.
Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni wedi gwneud sawl penderfyniad i sicrhau bod dysgwyr wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud mewn partneriaeth ag eraill. Rydyn ni wedi parhau i weithio'n agos gyda CBAC, cyrff dyfarnu eraill, y sector addysg ehangach a Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau penodol eleni er mwyn helpu i wneud iawn am rywfaint o'r aflonyddwch mae dysgwyr wedi'i brofi. Yr haf hwn, fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydyn ni wedi gwahodd dysgwyr, athrawon, darlithwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr arholiadau i rannu eu barn; ac mae nifer lawer ohonyn nhw wedi gwneud hynny. Y rheswm dros wneud hyn yw am ein bod ni wirioneddol eisiau dysgu o'u safbwyntiau nhw.
Blwyddyn bontio
Mae eleni yn flwyddyn bontio. Er mwyn cydnabod y cyfnod heriol yn ystod y pandemig, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithredu dull graddio amgen fel y bydd y canlyniadau'n adlewyrchu’n fras bwynt hanner ffordd rhwng 2019 a 2021. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, a bydd yn sicrhau na fydd dysgwyr yng Nghymru o dan anfantais o'i gymharu â'u cyfoedion dros y ffin.
Ein nod ni eleni oedd galluogi proses bontio gydlynol a chytbwys tuag at yr arholiadau a'r asesiadau arferol. Ar yr un pryd, mae angen i ni ystyried y pethau da rydyn ni wedi eu dysgu o gyfnod Covid ynghyd â'r datblygiadau cadarnhaol, er enghraifft defnyddio mwy o dechnoleg wrth addysgu, dysgu ac asesu, a'r ddadl ynghylch amrywiaeth yn y mathau o asesu, a’r rôl mae athrawon yn ei chymryd wrth asesu.
Hefyd, mae'n hanfodol cofio bod llawer o brifysgolion yn dal i asesu’n bennaf drwy arholiad, ac felly mae'n bwysig rhoi'r profiad o sefyll arholiadau ffurfiol i ddysgwyr yng Nghymru er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer y dyfodol petaent yn dewis symud i addysg uwch.
Dilyniant
Mae dilyniant dysgwyr wedi bod ar flaen fy meddwl yn ddiweddar. Gyda chanlyniadau Safon Uwch ac UG yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf, bydd nifer o bobl ifanc ar bigau’r drain wrth ddisgwyl am eu graddau er mwyn iddynt allu cynllunio'u camau nesaf. Bydd rhai'n gobeithio mynd i'r brifysgol; bydd eraill yn awyddus i gamu i fyd gwaith cyn gynted â phosibl; a bydd rhai yn ystyried dilyn prentisiaeth, fydd yn caniatáu iddynt ennill arian wrth barhau i ddysgu.
Mae dadansoddiad cychwynnol UCAS yn awgrymu cynnydd yn nifer y ceisiadau i fynd i’r brifysgol eleni, ac mae disgwyl y bydd y galw am addysg uwch gan bobl 18 oed yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Beth mae hynny'n ei olygu yw bod 2022 yn flwyddyn hynod o gystadleuol. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon mae cydweithwyr yn UCAS wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i sicrhau system glirio gadarn i gefnogi dysgwyr.
Hoffwn i roi sicrwydd i bobl ifanc fod nifer o gyrsiau a llwybrau dilyniant amgen ar gael iddynt. Rwy'n gwybod bydd pob ysgol a choleg ar draws y wlad ar gael i gynghori a chefnogi pobl ifanc os oes angen iddynt fynd drwy'r system glirio, ac mae llinellau cymorth ar gael ar gyfer y dysgwyr hynny sydd efallai angen cymorth ychwanegol.
Wrth gwrs, nid y brifysgol yw'r unig opsiwn wrth i ddysgwyr symud ymlaen i'w camau nesaf. Mae toreth o gyrsiau galwedigaethol ar gael mewn colegau addysg bellach, ar gyfer sawl pwnc ac ar ystod o lefelau, ynghyd â llu o gyfleoedd eraill ar draws y sector hyfforddi.
Rydyn ni'n gwybod bod sawl sector lle mae galw mawr am weithwyr medrus – er enghraifft iechyd a gofal, adeiladu, peirianneg ac arlwyo – ac mae mwy o gyfleoedd nag erioed ar gyfer prentisiaethau yn y meysydd hyn.
Yn sicr, pe bawn i yn fy arddegau eto, byddwn i'n edrych yn fanwl iawn ar yr holl opsiynau sydd ar gael. Gall pobl ifanc elwa'n enfawr o'r profiad o weithio ynghyd â dysgu sgiliau arbenigol a gwerthfawr tra eu bod yn ennill eu harian eu hunain, gan roi gwir ymdeimlad o annibyniaeth iddynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt barhau i ddysgu os ydynt yn dewis gwneud hynny, gan ganiatáu iddynt weithio tuag at gymwysterau Lefel 3/4, neu hyd yn oed radd, wrth wneud eu prentisiaeth.
Fel cyn Brif Weithredwr mewn coleg addysg bellach, byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth i gysylltu â'u coleg addysg bellach lleol, neu fynychu diwrnod agored yno, a dysgu mwy am opsiynau ar gyfer prentisiaethau. Mae ganddynt gysylltiadau ardderchog â chyflogwyr ac felly byddant yn gallu darparu cymorth ac arweiniad defnyddiol.
Cyfnod digynsail
Beth bynnag fydd y canlyniadau'r mis hwn, mae angen i ni i gyd longyfarch pobl ifanc am yr hyn maent wedi llwyddo i'w gyflawni mewn cyfnod hynod o anodd a digynsail.
Mae hefyd yn bwysig ein bod ni i gyd, gan gynnwys y cyfryngau, yn osgoi ceisio gwneud gormod o gymariaethau. Does dim gwerth mewn edrych ar raddau o'r ddwy flynedd ddiwethaf pan oedd trefniadau asesu yn wahanol. Yn yr un modd, dylid bod yn ofalus gyda phob cymhariaeth, gan gynnwys cymharu â rhannau eraill o'r DU.
Gyda'r canlyniadau ar fin cael eu cyhoeddi, hoffwn i ddymuno'r gorau i'n dysgwyr yng Nghymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallant symud ymlaen i gyfeiriad o’u dewis neu ddod o hyd i ddewisiadau amgen addas a allai eu harwain i gyfeiriad cyffrous a boddhaus nad ydynt wedi ei ystyried o'r blaen.
Pob lwc i'n holl ddysgwyr.
Am fwy o gymorth a chanllawiau edrychwch ar wefan Cymwysterau Cymru neu ewch i:
Cymru'n Gweithio yn Dechrau Dy Stori
Dewisiadau Clirio UCAS [cynnwys Saesneg]
Gyrfa Cymru
Gan David Jones OBE DL, Cadeirydd, Cymwysterau Cymru