BLOG

Cyhoeddwyd:

14.10.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CYRFF DYFARNU

Y daith yn ôl at safonau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig

Mae’r flwyddyn academaidd newydd bellach wedi hen ddechrau, ac mae pobl ifanc ledled Cymru’n brysur naill ai’n parhau â’u hastudiaethau ar gyfer eu cymwysterau, neu newydd ddechrau arni.

Dw i’n gwybod bod y rheini sy’n sefyll arholiadau yn 2023 yn awyddus i wybod rhagor ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd eleni, wrth i ni barhau â’r daith yn ôl at drefniadau cyn y pandemig. 

Llynedd, fe wnaeth dysgwyr sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig. Bydd arholiadau ac asesiadau’n digwydd eto eleni, ond rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr.

Pa gymorth sydd yn ei le i helpu dysgwyr i baratoi at arholiadau ac asesiadau yn 2023?

Nôl ym mis Mai, fe wnaethon ni gadarnhau y byddai gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch gwneud-i-Gymru ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. 

Efallai y bydd gwybodaeth ymlaen llaw hefyd yn addas ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol gwneud-i-Gymru. Byddwn ni’n gofyn i gyrff dyfarnu ystyried beth sydd yn ei le ar gyfer TGAU a Safon Uwch pan fyddan nhw’n gosod safonau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol gwneud-i-Gymru, er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr galwedigaethol o dan anfantais.

Mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), sy’n cynnwys CBAC, hefyd wedi bod yn ystyried adborth ynglŷn â sut y gweithiodd amserlen haf 2022, fel bod modd defnyddio rhai o’r un egwyddorion yn 2023. Er enghraifft, yn 2022 roedd bwlch o ddeg diwrnod rhwng unedau o’r un cymhwyster er mwyn lleihau’r posibilrwydd bod dysgwyr yn colli pob uned oherwydd Covid.

Er na fydd y bwlch mor fawr â deg diwrnod yn 2023, mae’n debygol y bydd mwy o fwlch nag yr oedd cyn y pandemig. Dechreuodd y JCQ ar gyfnod o ymgynghori ar amserlen dros dro haf 2023 fis diwethaf. 

Beth yw gwybodaeth ymlaen llaw?

Bwriad gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi dysgwyr drwy roi syniad o’r pynciau, themâu, testunau neu gynnwys arall y gallan nhw ei ddisgwyl yn eu harholiadau. Y prif fwriad yw helpu dysgwyr i ffocysu eu hadolygu wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Nid oes bwriad i gyfyngu ar yr hyn a astudir fel rhan o bob cymhwyster. Caiff ei rhyddhau mewn pryd i gefnogi’r broses adolygu.

Sut caiff arholiadau ac asesiadau eu graddio eleni?

Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith barhaus sylweddol ar ddysgu ac rydyn ni am i’r dull o raddio adlewyrchu hyn yn y ffordd decaf posibl. Y bwriad yw i ganlyniadau eleni syrthio’n fras hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022. Bydd hyn yn adlewyrchu’r tarfu a fu ar ddysgu drwy gydol y pandemig, tarfu posibl y gaeaf hwn a natur unedol rhai o’r cymwysterau  - lle bydd unedau a gafodd eu sefyll a’u graddio yn 2022 yn cyfrannu at raddau cyffredinol y cymwysterau a gaiff eu dyfarnu yn 2023.   

Bydd y broses yn debyg iawn i'r haf hwn. Bydd pwyllgor dyfarnu o uwch-arholwyr yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth a safbwyntiau ystadegol a gafwyd o adolygiad o enghreifftiau o waith dysgwyr, i sefydlu faint o farciau sydd eu hangen er mwyn cyflawni gradd benodol ar bob asesiad.

A fydd ffiniau graddau’n newid yn haf 2023?

Fel yn unrhyw gyfres, efallai y bydd pwyllgorau dyfarnu’n argymell ffiniau graddau sydd mewn safle gwahanol i gyfresi blaenorol, i gyfrif am wahaniaethau yn lefel yr her mewn papurau arholiadau. Yn haf 2023, bydd hefyd ffactorau eraill yn gysylltiedig â gwybodaeth ymlaen llaw a’r penderfyniad polisi ar y dull graddio allai gael effaith ar ffiniau graddau.

Pwy fydd yn dyfarnu graddau eleni?

Wrth ddychwelyd i’r trefniadau asesu arferol, bydd CBAC yn dyfarnu graddau i ddysgwyr yn haf 2023.

A fydd y dull o raddio yn effeithio ar fynediad dysgwyr yng Nghymru i brifysgolion?

Mae’r dull o raddio yng Nghymru ychydig yn wahanol i’r un yn Lloegr. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda rheoleiddwyr eraill ac UCAS i gyfathrebu ein dull i brifysgolion a sefydliadau eraill. Ni fydd dysgwyr yng Nghymru o dan anfantais, gan y byddwn yn ei gwneud hi’n glir mai cam yn y cyfnod pontio yn ôl at safonau cyn y pandemig yw hyn. Mae prifysgolion wedi croesawu tryloywder cynnar o ran ein dull.

A oes unrhyw newidiadau i asesiadau di-arholiad ar gyfer haf 2023?

Nid oes newidiadau i’r gofynion asesu ar gyfer asesiadau di-arholiad. Mae CBAC eisoes wedi rhannu gwybodaeth gydag ysgolion a cholegau ynglŷn â chefnogaeth i drefniadau cymedroli, gan adeiladu ar rai dulliau a weithiodd yn dda yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

A fydd yr un dull yn cael ei gymryd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru sy’n astudio cymwysterau nad ydynt yn TGAU, UG a Safon Uwch gwneud-i-Gymru?

Cafodd y dull ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch A gwneud-i-Loegr ei gyhoeddi gan Ofqual ym mis Medi. Bydd y cymwysterau hyn yn dychwelyd at ganlyniadau sy’n edrych yn debyg i 2019 ac ni fydd unrhyw wybodaeth ymlaen llaw.

Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru sy’n debyg i TGAU, UG a Safon Uwch, bydd disgwyl i CBAC ystyried y dull a gymerwyd ar gyfer y cymwysterau hynny wrth ddyfarnu. Bydd y dull dyfarnu cymwysterau galwedigaethol tair gwlad yn cyd-fynd â phenderfyniadau a wnaed ar gymwysterau cyffredinol yn Lloegr.

A fydd y dull yr un peth ar gyfer cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau?

Bydd dull graddio’r tystysgrifau her sgiliau yn cyd-fynd â’r dull ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Gweithiodd yr addasiadau a roddwyd yn eu lle yn ystod y pandemig yn dda. Yn ôl yr adborth a gafwyd gan ganolfannau a CBAC roedd y newidiadau wedi caniatáu mwy o amser i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau oedd eu hangen heb danseilio dilysrwydd y cymwysterau. Rydyn ni felly wedi penderfynu parhau â’r newidiadau hyn yn barhaol yn y cymwysterau.   

Pa ddull graddio fydd yn berthnasol i gyfres Tachwedd 2022?

Mae TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg, Mathemateg-Rhifedd a Chymraeg ar gael yng nghyfres Tachwedd. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o gofrestriadau fel arfer ar gyfer dysgwyr sydd ym mlwyddyn 11, gyda llai o gofrestriadau ar gyfer dysgwyr hŷn sy’n ailsefyll yr arholiadau. Os mai dyma fydd yr achos fis nesaf, bydd y dull graddio fel y dull a ddefnyddir yn haf 2023.

Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru