NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

05.01.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID

Y diweddaraf ar arholiadau eleni

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r holl arholiadau y bwriedir eu cynnal eleni fynd yn eu blaenau.

Llywodraeth Cymru fyddai'n gwneud unrhyw benderfyniad i ganslo arholiadau.

Fis Tachwedd y llynedd, rhannodd Cymwysterau Cymru wybodaeth gydag ysgolion a cholegau am gynlluniau wrth gefn yn dweud wrthynt sut i ddyfarnu Graddau wedi’u Pennu gan y Ganolfan pe bai eu hangen.

Bydd ysgolion a cholegau yn dyfarnu Graddau wedi’u Pennu gan y Ganolfan drwy asesu gwaith dysgwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob ysgol yng Nghymru gael dau ddiwrnod cynllunio ar ddechrau'r tymor

Os na all dysgwyr sefyll unrhyw arholiadau TGAU, UG neu Safon Uwch sydd i fod i gael eu cynnal y mis hwn oherwydd eu bod yn sâl neu am fod angen iddynt hunanynysu, byddant yn gallu eu sefyll yn yr haf yn lle hynny.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn fwy amrywiol o ran sut y cânt eu hasesu. Mae cyrff dyfarnu eisoes wedi rhoi gwybod i ysgolion a cholegau am yr addasiadau maen nhw wedi’u gwneud i’w cymwysterau. Os caiff arholiadau eu canslo, bydd cymwysterau galwedigaethol tebyg i TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu dyfarnu gan ddefnyddio Graddau wedi’u Pennu gan y Ganolfan (Graddau a Asesir gan Athrawon). Bydd cyrff dyfarnu yn darparu canllawiau pellach i ysgolion a cholegau os caiff arholiadau eu canslo.  Mae Ofqual hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gymwysterau galwedigaethol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ysgolion, colegau a dysgwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyngor gweithredol i gefnogi ysgolion a cholegau.