"Y ffordd iawn i symud ymlaen.”
Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru, yn trafod cynigion ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd wedi’u Gwneud-i-Gymru a’r gwaith sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r llenni i lunio cymwysterau’r dyfodol.
Fel mae llawer ohonoch chi’n gwybod, mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn cydweithio dros y tair blynedd diwethaf ar greu set newydd sbon o gymwysterau TGAU wedi’u Gwneud-i-Gymru.
Ymhen amser, bydd y rhain yn helpu i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru ac yn bodloni anghenion dysgwyr y dyfodol - gan sicrhau bod y cymwysterau maen nhw’n eu cymryd ar ddiwedd eu taith yn y cwricwlwm nid yn unig yn ategu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiadau, ond hefyd yn eu paratoi i symud ymlaen yn hyderus i bennod nesaf eu bywydau.
Yn ôl yn hydref 2022, fe wnaethom ni wahodd pobl i ddweud eu dweud am gynnwys ac asesu arfaethedig y cymwysterau newydd hyn - a fydd ar gael o 2025 ymlaen - fel rhan o sgwrs genedlaethol ar ailwampio cymwysterau TGAU yng Nghymru. Roedd y broses ymgynghori yma, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2022, yn un gwbl agored. Gallai unrhyw un gyfrannu – athrawon, ysgolion, rhieni, gofalwyr, cyflogwyr, dysgwyr, pwy bynnag oedd â barn.
Ac, rwy'n falch iawn o ddweud bod llawer o bobl wedi manteisio ar y cyfle i rannu eu barn, gan ddarparu cyfoeth o adborth cyfoethog, ansoddol ar y cynigion - beth allai weithio, beth na allai weithio, beth y gallem ni ei wneud yn wahanol, ac yn y blaen. Yr union adborth roedden ni’n chwilio amdano.
Cyn mynd ymlaen, dwi am gymryd y cyfle yma i ddweud diolch yn fawr. I bob un ohonoch chi wnaeth rannu'r ymgynghoriad a thrafod y cynigion, ac i'r dros 2,000 ohonoch chi wnaeth ymateb – diolch. Mae ymgynghoriad cyhoeddus ond yn gweithio pan fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac y tro hwn, gyda'ch help chi, fe gyrhaeddon ni yno.
Rydyn ni bellach yn rhannu'r adborth hwnnw'n uniongyrchol gyda'r un gweithgorau rydyn ni wedi bod yn cydweithio â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf ar y cynnwys a'r asesu arfaethedig ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Ac rydyn ni’n parhau i rannu syniadau’r grwpiau hyn ag eraill i gael mewnbwn, gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion, cyflogwyr, cyrff dysgedig a'n grŵp cynghori i ddysgwyr.
Gyda'n gilydd, rydyn ni’n edrych ar yr holl bwyntiau a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Byddwn ni’n defnyddio'r adborth i benderfynu sut i addasu a mireinio ein cynigion i wneud yn siŵr bod y cymwysterau hyn yn bopeth y gallan nhw fod. Er enghraifft, rydyn ni'n anelu at gael y manylion yn iawn ar sut rydyn ni'n cydbwyso'r gwahanol fathau o asesu sydd wedi'u cynnwys yn y cymwysterau TGAU hyn a sut y byddan nhw’n gweithio'n ymarferol. Rydyn ni hefyd yn sicrhau y bydd y cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ymwneud â themâu trawsbynciol pwysig megis amrywiaeth, cynefin a chynaliadwyedd.
Mae'n deg dweud mai'r cynigion dylunio a ddenodd fwyaf o ddiddordeb oedd y rhai yn y Gwyddorau, Saesneg, Cymraeg a Mathemateg, lle rydyn ni am gyflwyno cymwysterau cyfunol newydd.
Rydyn ni nawr yn meddwl yn ofalus iawn am sut rydyn ni am fwrw ati i ddiwygio'r pynciau hyn. Rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni wedi deall a phrofi'r gwahanol safbwyntiau (a’r rheini’n safbwyntiau pendant iawn weithiau) ar y cynigion hyn yn llawn. I wneud hynny, rydyn ni’n cymryd cam yn ôl o'r manylion ac yn pwyso a mesur. Mae'n bwysig ein bod ni’n cael y penderfyniadau hyn yn iawn, ac mae hynny'n golygu cymryd amser i feddwl am ddulliau gwahanol. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydyn ni’n edrych eto ar ein cynigion gwreiddiol ac yn archwilio opsiynau eraill ochr yn ochr â nhw.
A dyna lle rydyn ni arni ar hyn o bryd. Mae llawer iawn o waith yn digwydd gyda channoedd o gyfranwyr yn cyd-dynnu i drafod yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’r ymgynghoriad a pha newidiadau y dylem ni eu gwneud. Nid yn unig ar lefel pwnc, ond hefyd yn gyffredinol, fel bod y cymwysterau newydd hyn yn dod at ei gilydd fel pecyn a fydd yn gweithio i ddysgwyr, i ysgolion ac i gyflogwyr.
Er bod gennym rai misoedd prysur a rhai penderfyniadau mawr o'n blaenau, rydyn ni ar y trywydd iawn. Yn nhymor yr haf byddwn ni’n cyhoeddi’r gofynion dylunio terfynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ynghyd ag adroddiad ar ymgynghoriad 2022 a’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud.
Efallai bod hyn yn swnio’n ystrydebol, ond rydyn ni ar daith gyffrous o ran addysg a diwygio yng Nghymru, wrth i ni lunio ein llwybr unigryw ein hunain mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Mae gennym ni'r cyfle mwyaf mewn mwy na chenhedlaeth i ailffurfio ac i ail-ddychmygu’r cymwysterau a gaiff eu hastudio gan bobl ifanc Cymru. Mae gennym ni gyfrifoldeb i'r genhedlaeth hon o ddysgwyr, a'r cenedlaethau i ddod, i ddeall beth mae pobl wedi ei ddweud wrthym ac i feddwl yn wirioneddol galed am yr hyn a ddaw nesaf. A dyna, fel rwy’n ei nodi, yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Fel rhan o'n digwyddiadau Cymwys ar gyfer y Dyfodol, rydym bellach wedi lansio ymgynghoriad cenedlaethol ar y Cynnig Llawn o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed a fydd yn eistedd ochr yn ochr â TGAU. Dyma gyfle i chi gael Dweud eich Dweud ar ein cynigion ar gyfer y ddewislen o gymwysterau cynhwysol, dwyieithog cyn 14 Mehefin.