NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

01.11.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ymchwil addasiadau asesu haf 2022

wedi cyhoeddi ymchwil ansoddol a gafodd ei gynnal gan Opinion Research Services ar brofiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau wedi’u haddasu yn ystod haf 2022.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ymchwil ansoddol a gafodd ei gynnal gan Opinion Research Services ar brofiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch wedi’u haddasu yn ystod haf 2022. 

Fe gafodd yr addasiadau eu gweithredu gyda’r nod o gefnogi dysgwyr trwy wneud yr asesiadau’n fwy hygyrch oherwydd yr aflonyddwch parhaus oedd yn cael ei achosi i addysg gan y pandemig. Roedd llawer o wahanol fathau o addasiadau ar draws pynciau. Mae enghreifftiau penodol ar gael yn ein hadroddiad llawn a’r adroddiad cryno. 

Dyma rai o uchafbwyntiau canfyddiadau’r ymchwil: 

  • roedd addasu asesiadau yn gam angenrheidiol o dan yr amgylchiadau 
  • roedd rhai manteision i addasiadau – er enghraifft, pan gafodd asesiad ei ddileu, teimlai rhai athrawon y gallent ganolbwyntio ar addysgu’r hyn oedd ar ôl yn fanylach 
  • dywedodd dysgwyr eu bod wedi bod yn ymwybodol o’r addasiadau – er bod rhai yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r asesiadau, dywedodd eraill eu bod yn teimlo rhywfaint o ansicrwydd 
  • lle roedd dysgwyr yn teimlo'n ansicr, weithiau fe wnaethant barhau i adolygu cynnwys a oedd wedi'i addasu o'r asesiadau 
  • tynnodd llawer sylw at y ffaith bod addasu asesiadau yn cael effaith gydag amrywiaeth o ran os oedd cynnwys a gafodd ei dynnu o asesiadau yn cael ei addysgu a'i ddysgu 
  • roedd rhai athrawon o’r farn bod parodrwydd dysgwyr ar gyfer astudiaeth bellach yn cael ei effeithio – ond cafodd ei gydnabod bod hyn hefyd oherwydd bod dysgwyr yn llai parod ar gyfer astudiaeth bellach yn gyffredinol oherwydd y tarfu ar addysg 

Dilynodd y prosiect ymchwil gydag athrawon ar y dull graddio a gafodd ei bennu gan y ganolfan a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer yr un cymwysterau yn ystod haf 2021. Mae’r canfyddiadau’n ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r hyn all ddigwydd, o safbwynt y rhai sy’n defnyddio’r cymwysterau, pan fydd cymwysterau wedi newid.